Gofyn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) mewn ymweliadau iechyd: Canfyddiadau astudiaeth beilot

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio canfyddiadau allweddol y gwerthusiad o gynllun peilot cychwynnol ymchwiliad ACE a gyflwynwyd gyda mamau yn ystod ymgysylltu cynnar â gwasanaethau ymwelwyr iechyd ledled Ynys Môn, Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y peilot rhwng mis Hydref 2017 a mis Gorffennaf 2018 ac ymgysylltodd â 321 o famau mewn trafodaeth gefnogol, gwybodus am ACE am drallod plentyndod a’i effaith ar iechyd, lles a rhianta.

Awduron: Katie Hardcastle, Mark Bellis

Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol

Mae’r adnodd hwn: Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol, yn ymwneud ag ysgolion, addysg ac atal trais. Mae’n rhoi canllawiau i swyddogion ysgolion ac awdurdodau addysg ar sut y gall ysgolion ymgorffori atal trais yn eu gweithgareddau arferol ac ar draws y mannau rhyngweithio y mae ysgolion yn eu darparu gyda phlant, rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned. Os caiff ei weithredu, bydd y llawlyfr yn cyfrannu llawer at helpu i gyflawni’r Grwpiau Datblygu Cynaliadwy a nodau iechyd a datblygu byd-eang eraill.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 1 mwy
, Mark Bellis

Ni yw’r Newid: Camau Cynaliadwy tuag at nodau llesiant Cymru

Mae Byddwch yn Newid yn fudiad/ymgyrch i annog a chefnogi staff i gymryd camau cynaliadwy yn y gweithle i gyfrannu’n unigol at nodau llesiant Cymru.
Yn dilyn lefel y diddordeb yn e-ganllawiau ‘Byddwch y Newid’ a gynhyrchwyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd yn hyn, mae’r Hyb wedi datblygu pecyn cymorth i helpu cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach i fabwysiadu ‘Byddwch y Newid’ yn eu mannau gwaith. Nod y pecyn cymorth yw darparu gwybodaeth, ond hefyd cefnogi staff i fod yn ‘gyfryngau newid’ trwy eu helpu i wneud newidiadau cynaliadwy bach ar lefel unigol, neu trwy weithio gyda’i gilydd fel timau.

A yw yfed alcohol ymysg oedolion yn cyfuno â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gynyddu ymwneud â thrais ymysg dynion a menywod? Astudiaeth drawsdoriadol yng Nghymru a Lloegr.

Astudiaeth i archwilio a yw hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cyfuno ag yfed alcohol ymysg oedolion i ragfynegi cyflawni trais ac erledigaeth yn ddiweddar, ac i ba raddau.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 5 mwy
, Kat Ford, Sara Edwards, Olivia Sharples, Katie Hardcastle, Sara Wood

A yw emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol yn wahanol yn ôl y math o alcohol? Arolwg traws-adrannol rhyngwladol o emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol a dylanwad ar ddewis diod mewn gwahanol leoliadau

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag yfed gwahanol fathau o alcohol, p’un a yw’r emosiynau hyn yn wahanol i ddemograffeg gymdeithasol a dibyniaeth ar alcohol ac a yw’r emosiynau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddiodydd yn dylanwadu ar ddewis pobl o ddiodydd mewn gwahanol leoliadau.

Awduron: Kathryn Ashton, Mark Bellis+ 3 mwy
, Alisha Davies, Karen Hughes, Adam Winstock

Atal ac Ymateb i Ddigwyddiadau Torfol o Ddiweithdra (MUE) o Safbwynt Iechyd y Cyhoedd

Nod y cyhoeddiad hwn yw mynd i’r afael â’r bwlch a achosir gan leihau neu gau un cyflogwr mawr mewn ardal leol, ac mae’n darparu fframwaith ymateb gwybodus am iechyd y cyhoedd sy’n ystyried yr effaith ar benderfynyddion ehangach iechyd a’r poblogaethau sydd yn cael eu heffeithio.

Awduron: Alisha Davies, Lucia Homolova+ 2 mwy
, Charlotte Grey, Mark Bellis

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Bregusrwydd o ran Tai – Adroddiad a Gwerthusiad o Hyfforddiant sy’n wybodus am ACE ar gyfer Tai

Datblygwyd yr adnodd Hyfforddiant Tai sy’n wybodus am ACE gyda phartneriaid mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr Tai o wahanol ddeiliadaethau ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o ACE a chynyddu hyder yn ymateb i ACE a bregusrwydd yn y sector Tai. Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso’r hyfforddiant ac yn gwneud argymhellion ar gyfer hyfforddiant sy’n seiliedig ar ACE yn y dyfodol yn y sector tai.

Awduron: Charlotte Grey, Louise Woodfine

Iechyd yn Asesiadau Cynlluniadau

Yn y rhifyn diweddaraf o Planning in London, darparodd Michael Chang (Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref), Liz Green (WHIASU) a Jenny Dunwoody (Arup) drosolwg o gyfleoedd i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn ystod o asesiadau yn y broses gynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. Mae’r erthygl hon wedi’i gosod yng nghyd-destun y Cynllun Llundain arfaethedig, dogfen gynllunio strategol statudol ar gyfer Llundain gyfan, a fydd yn gweld bwrdeistrefi yn mabwysiadu’r polisi o ddefnyddio HIA yn y broses ceisiadau cynllunio. Bydd llawer o’r materion a’r themâu a nodir yn yr erthygl hefyd yn berthnasol ac o ddiddordeb i ymarferwyr yng Nghymru. (pp52-53)

Awduron: Michael Chang, Liz Green+ 1 mwy
, Jenny Dunwoody

Ymholiad arferol am hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) yn y boblogaeth cleifion sy’n oedolion mewn lleoliad ymarfer cyffredinol: Astudiaeth braenaru

Archwiliad cychwynnol o ddichonoldeb a derbynioldeb gofyn am hanes o ACE mewn practis meddygon teulu aml-safle mawr yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae’r canfyddiadau’n archwilio profiadau ymarferwyr o gyflwyno ac effeithiau posibl ar gleifion.

Awduron: Katie Hardcastle, Mark Bellis

Gwerthusiad o Ymagwedd Ysgol Gyfan sy’n Wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Mae tystiolaeth eang o effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ar ddatblygiad plant a’r canlyniadau dilynol yn nes ymlaen mewn bywyd. Fodd bynnag, gall datblygu cadernid mewn plant helpu i amddiffyn rhag effeithiau trawma a lleihau’r risg o ganlyniadau gwael pan yn oedolion. Mae’r ymagwedd ysgol gyfan sy’n wybodus am ACE yn rhaglen sydd wedi’i datblygu i gyflwyno a gweithredu arferion sy’n wybodus am drawma mewn ysgolion. Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol o ymagwedd y peilot hwn.

Awduron: Emma Barton, Annemarie Newbury+ 1 mwy
, Jo Roberts

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: Torri’r Cylch Troseddu rhwng y Cenedlaethau Trosolwg

Yn rhan o’r dull amlasiantaethol, strwythuredig ac ymyrraeth gynnar o ddelio â phobl sy’n agored i newid, aethpwyd ati i beilota trefniadau newydd rhwng Timau Plismona yn y Gymdogaeth a Thîm Cymorth Cynnar Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a hynny er mwyn sicrhau ymateb mwy effeithiol i bobl sy’n agored i niwed, gan roi pwyslais ar blant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr.

Awduron: Michelle McManus, Emma Barton+ 2 mwy
, Annemarie Newbury, Janine Roderick

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ffynonellau gwydnwch plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o’u cydberthnasau ag iechyd plant a phresenoldeb addysgol

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), gan gynnwys cam-drin ac amlygiad i straenachosyddion yn y cartref, effeithio ar iechyd plant. Gall ffactorau cymunedol sy’n darparu cymorth, cyfeillgarwch a chyfleoedd ar gyfer datblygiad feithrin gwydnwch plant a’u hamddiffyn rhag rhai o effeithiau niweidiol ACEs. Mae’r papur hwn yn archwilio a yw hanes o ACEs yn gysylltiedig ag iechyd a phresenoldeb yn yr ysgol gwael yn ystod plentyndod ac i ba raddau y mae asedau cadernid cymunedol yn gwrthweithio canlyniadau o’r fath.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 6 mwy
, Kat Ford, Katie Hardcastle, Catherine Sharp, Sara Wood, Lucia Homolova, Alisha Davies

Gwneud Gwahaniaeth: Lleihau’r risg i iechyd sydd yn gysylltiedig â llygredd traffig ar y ffyrdd yng Nghymru

Mae’r gwaith hwn yn estyniad o adroddiad Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n defnyddio tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i nodi camau i leihau llygredd aer sy’n gysylltiedig â thraffig ar y ffyrdd, risgiau ac anghydraddoldebau.

Awduron: Charlotte Grey, Huw Brunt+ 7 mwy
, Sarah Jones, Sumina Azam, Joanna Charles, Tom Porter, Angela Jones, Teri Knight, Sian Price

Adroddiad Cynnydd IHCC 2015-17

Cyhoeddodd y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) adroddiad yn tynnu sylw at ei chyflawniadau o ran cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru. Mae Adroddiad Cynnydd diweddaraf yr IHCC yn amlinellu’r gwaith, y cynnydd a’r cyflawniadau rhwng 2015 a 2017 a wnaed gan yr IHCC a Byrddau Iechyd Cymru ac Ymddiriedolaethau yn y maes hwn. Mae hefyd yn dangos sut y mae’r IHCC wedi esblygu mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, y DU, cenedlaethol a lleol.

Awduron: Mariana Dyakova, Lauren Couzens (née Ellis)+ 3 mwy
, Lucy Fagan, Elodie Besnier, Anna Stielke

A yw’r cyfan yn fwg heb dân? Amgyffrediad plant ysgol gynradd Cymru o sigaréts electronig

Mae poblogrwydd cynyddol a thwf cyflym sigaréts electronig wedi creu cryn bryder am eu heffaith ar blant a phobl ifanc. Mae pryderon yn ymwneud â sigaréts electronig yn gweithredu fel llwybr posibl i smygu tybaco i bobl ifanc nad ydynt erioed wedi smygu, mwy o arbrofi gan arwain at ailnormaleiddio ymddygiad smygu a niwed posibl i iechyd yn sgîl anweddu.

Awduron: Lorna Porcellato, Kim Ross-Houle+ 9 mwy
, Zara Quigg, Jane Harris, Charlotte Bigland, Rebecca Bates, Hannah Timpson, Ivan Gee, Julie Bishop, Ashley Gould, Alisha Davies

Rhannu yw Gofalu? Ystyried rhannu gwybodaeth am gleifion yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau presennol, ac opsiynau wrth symud ymlaen

Adolygiad o’r fframwaith deddfwriaethol a pholisi ar gyfer rhannu gwybodaeth am gleifion mewn perthynas ag iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae’r papur hwn yn cyflwyno cyfres o opsiynau i swyddogion y gellid eu cymryd i wella gofal cleifion, tra’n ceisio parchu cyfrinachedd a chynnal ymddiriedaeth hefyd.

Awduron: Adam Jones, Zoë Couzens+ 6 mwy
, Amanda Davies, Sarah Morgan, Rachel Drayton, Catherine Moore, Jane Evans, Lisa Partridge

Ffynonellau cadernid a’u perthynas gymedroli â niwed yn sgîl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adroddiad 1: Salwch Meddwl

Cynhaliwyd Arolwg o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chadernid Cymru i archwilio ffactorau unigol a chymunedol a allai gynnig amddiffyniad rhag effeithiau niweidiol ACE ar iechyd, lles a ffyniant ar draws cwrs bywyd.

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford+ 3 mwy
, Alisha Davies, Lucia Homolova, Mark Bellis