‘Iechyd ym Mhob Polisi’ – Sbardun Allweddol ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn Byd ar ôl y Pandemig COVID-19
Mae pandemig COVID-19 wedi codi proffil iechyd y cyhoedd ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng iechyd a meysydd polisi eraill. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhesymeg dros fecanweithiau Iechyd ym mhob Polisi (HiAP), a’r egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), profiadau, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. […]
Defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses […]
Adnodd Newydd i helpu i greu amgylcheddau iachach a mynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru. Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi’u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi […]
‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’
Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Alma Economics i adolygu’r dystiolaeth ymchwil ar effaith pandemig y Coronafeirws a mesurau cysylltiedig y llywodraeth ar lesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc. Cafodd ‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’ ei gynnal gan ddefnyddio cyfres o ddata arolwg presennol ac astudiaethau ymchwil cyhoeddedig, […]
Dosbarth Meistr rhithwir dwy ran: Sut i ddeall cytundebau masnach newydd y DU a’u goblygiadau i iechyd a llesiant ar y boblogaeth yng Nghymru
Am dros bedwar degawd, mae’r UE wedi delio â’r rhan fwyaf o bolisi masnach y DU. Nawr, wrth i’r wlad adennill ymreolaeth dros ei phenderfyniadau polisi masnach, rhaid i’r llywodraeth ystyried ei hymagwedd yn ofalus wrth ddilyn cytundebau masnach rydd. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cytuno ar gytundeb masnach gyda’r UE, ac yn ddiweddar, […]
Cyfleoedd Gwyrdd – Gaeaf 2020
Mae’r pandemig yn alwad i’r ddynoliaeth ddihuno. Mae wedi cyflwyno heriau anhygoel ac wedi datgelu anghydraddoldebau strwythurol dwfn yn ein heconomi a’n cymdeithas, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd, tlodi bwyd a gwahaniaethau rhwng hiliau. Rydym wedi cofnodi’r gwersi a ddysgwyd ac wedi nodi arfer gorau i gefnogi cyflwyno a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), y […]
Mae gweithio gartref ac ystwyth yn cael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar iechyd a lles y cyhoedd yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer lles meddyliol, yr economi a’r amgylchedd
Wrth i lawer ohonom ddechrau ar ein gwaith o gartref neu weithle Ystwyth yn 2021, mae Richard Lewis a Liz Green yn trafod asesiad diweddar ICC ar effaith gweithio gartref ac ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cliciwch yma i gael y manylion llawn.
Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymr cyhoeddi adroddiad
Heddiw, mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ‘Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru’. Mae wedi dod i’r amlwg fod gweithio gartref wedi cael effaith sylweddol […]
Mae angen i anghenion iechyd a llesiant y gymuned bysgota fod yn ganolog i’r ymateb i Brexit – adroddiad newydd
Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu llesiant cymunedau pysgota Cymru wrth iddynt wynebu ansicrwydd ac effaith economaidd niweidiol bosibl Brexit. Mae’r cyhoeddiad, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl, yn nodi effeithiau iechyd a llesiant yr heriau a’r ansicrwydd niferus sy’n wynebu cymunedau pysgota yng Nghymru. Mae’r materion […]