Mae gwerthusiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn archwilio’r dull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais, sy’n darparu gwersi allweddol ac ystyriaethau ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.
Wedi’i gynnal gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, mae’r gwerthusiad yn darparu gwersi pwysig ar sut i roi gweithgarwch atal trais ar waith yn lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy’n galluogi’r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.
Mae’r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy’n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o’r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi’r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.
Awduron: Ellie McCoy, Chloe Smith+ 5 mwy
, Rebecca Harrison, Alice-Booth Rosamond, Hannah Timpson, Zara Quigg, Alex Walker
Er mwyn newid ymddygiad sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn effeithiol, rhaid inni bod yn glir ac yn benodol am yr ymddygiad yr ydym yn gobeithio ei newid, deall y rhwystr(au) a/neu’r hwylusydd/hwyluswyr i’r ymddygiad targed a gweithredu ystod eang o ymyriadau i fynd i’r afael â/neu wella’r rhwystr(au) a/neu’r hwylusydd/hwyluswyr a nodwyd. Gan ddefnyddio ailgylchu’r cartref fel enghraifft, diben yr astudiaeth achos hon yw dangos sut y gall cymhwyso gwyddor ymddygiad helpu i nodi a gweithredu ystod o wahanol fathau o ymyriadau a all helpu i fynd i’r afael yn effeithiol â phenderfynyddion ymddygiad a dylanwadu ar ymddygiad.
Mae’r adroddiad yn nodi sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau. Fel rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, adran 6, mae gennym ddyletswydd i gyhoeddi cynllun ac adrodd ar ein cynnydd. Mae ein gwaith i gefnogi bioamrywiaeth yn cyfrannu at nod llesiant sef ‘Cymru gydnerth’ yn ogystal â’n blaenoriaethau strategol eraill. Er bod y cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, mae hefyd yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth ar draws y system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru a chyda chydweithwyr mewn sectorau eraill.
Mae’r adroddiad yn cwmpasu:
• Pwysigrwydd bioamrywiaeth i iechyd a llesiant a’r heriau a gyflwynir gan yr argyfwng natur presennol
• Crynodeb o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth diwethaf yn 2019
• Amlinelliad o sut y datblygwyd y cynllun newydd
• Y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y 3 blynedd nesaf a sut y byddwn yn adrodd ar ein cynnydd
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Awst 2024 sy’n cwmpasu: Iechyd cardiofasgwlar, Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys, teithio i apwyntiadau iechyd, pwysau iach, amser bwyd a brechlynnau.
Mae’r ‘Archwiliad manwl o wlad ar yr economi llesiant: Cymru’ yn rhan o gyfres o archwiliadau manwl a gyhoeddwyd o dan y Fenter Economi Llesiant Ewropeaidd dan arweiniad y Swyddfa Ranbarthol WHO Ewrop ar gyfer Buddsoddi a Datblygu. Datblygir pob cyhoeddiad yn y gyfres trwy gyfuno llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd â naratifau o gyfweliadau lled-strwythuredig a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid allweddol yn y llywodraeth a sefydliadau iechyd y cyhoedd, gyda’r nod o ddangos profiadau gwlad diriaethol wrth hyrwyddo a gweithredu economïau llesiant.
Mae’r archwiliad manwl hwn yn canolbwyntio ar ddull Cymru. Mae’n rhoi cyd-destun i ymrwymiad Cymru i’r agenda economi llesiant, ac yn nodi cysyniadau a strategaethau allweddol, strwythurau a mecanweithiau llywodraethu, rôl iechyd (y cyhoedd), a dulliau o fesur a monitro cynnydd. Mae’n amlygu’r ysgogwyr a’r rhwystrau y mae Cymru wedi dod ar eu traws ar y llwybr tuag at economi llesiant. Er nad yw profiad Cymru yn gynrychioliadol nac yn hollgynhwysfawr, gall gwledydd sy’n ystyried neu yn y broses o symud i economi llesiant edrych ar y canfyddiadau allweddol hyn a mynd â negeseuon polisi gyda hwy i gael ysbrydoliaeth.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y defnydd o Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel proses a all gefnogi llunwyr polisïau a’r rhai sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau i wneud y mwyaf o fuddion llesiant, lleihau niwed i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (2017).
Mae 20 mlynedd ers sefydlu UGAEIC yn nodi dau ddegawd o ddatblygu HIA fel arf hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2004. Mae UGAEIC wedi arwain y ffordd wrth alluogi integreiddio HIA i mewn i bolisi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r llinell amser yn amlygu cerrig milltir, dogfennau, a chyhoeddiadau allweddol yn hanes UGAEIC ac arfer HIA yng Nghymru. Gan edrych i’r dyfodol, bydd UGAEIC yn parhau i hyrwyddo HIA ac Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP), ac yn cefnogi cyrff cyhoeddus i roi rheoliadau HIA sydd ar y ffordd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ar waith.
Awduron: Michael Fletcher, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Laura Evans, Cheryl Williams, Abigail Malcolm (née Instone), Catrin Lyddon, Lee Parry-Williams, Nerys Edmonds, Liz Green
Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18°C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys set o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Awduron: Rebecca Hill, Daniella Griffiths+ 5 mwy
, Hayley Janssen, Kat Ford, Nicholas Carella, Ben Gascoyne, Sumina Azam
Cynhelir Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i lywio prosesau gwneud penderfyniadau trwy asesu effeithiau iechyd a thegwch iechyd posibl rhaglen, polisi neu brosiect a datblygu ymatebion priodol i liniaru niwed a sicrhau’r buddion mwyaf posibl. Mae cyfranogiad rhanddeiliaid a chymuned yn ganolog i broses asesiadau o’r effaith. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio profiadau rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned a gymerodd ran mewn gweithdai HIA yng Nghymru rhwng 2005 a 2020. Casglwyd data trwy holiadur ar ddiwedd pob sesiwn gweithdy HIA. Bu rhanddeiliaid a chyfranogwyr o’r gymuned o gefndiroedd amrywiol yn adrodd ar brofiad eu cyfranogiad. Mae’r dadansoddiad yn datgelu ystod o fanteision canfyddedig cymryd rhan yn y broses HIA. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys y cyfle i gael eich clywed, rhwydweithio, a chipolwg ar gyfranogiad fel gwasanaeth cymunedol. Mae’r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cyfranogiad rhanddeiliaid a’r gymuned mewn HIA, trwy safbwynt y cyfranogwyr eu hunain. Mae’r astudiaeth hon yn cyfrannu at ddealltwriaeth o gyfranogiad cymunedau a rhanddeiliaid mewn prosesau asesiadau o’r effaith. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella arferion ac effaith HIA wrth ddatblygu polisi. Mae’n bosibl y gellir trosglwyddo’r canfyddiadau hyn i fathau eraill o asesiadau o’r effaith, a mathau eraill o gyfranogiad cymunedol a rhanddeiliaid.
Awduron: Liz Green, Amber Murphy+ 3 mwy
, Kathryn Ashton, Christopher Standen, Fiona Haigh
Mae iechyd rhywiol y boblogaeth carchardai gwrywaidd yn aml ymhlith y tlotaf mewn gwlad. Nod y papur hwn yw nodi effeithiau iechyd ehangach a gwerth cymdeithasol rhaglen hunan-samplu iechyd rhywiol a gynigir i garcharorion gwrywaidd mewn carchar agored yng Nghymru.
Cymhwysodd yr astudiaeth hon ddull peilot unigryw o ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd a Fframweithiau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ochr yn ochr. Nodwyd grwpiau rhanddeiliaid allweddol yr effeithiwyd arnynt gan yr ymyriad, ac ymgysylltwyd â hwy trwy weithdai, cyfweliadau a holiaduron i nodi a mesur yr effeithiau ar iechyd a chanlyniadau ehangach. Yna cafodd canlyniadau eu prisio gan ddefnyddio gwerthoedd ariannol dirprwyol i gyflwyno amcangyfrif o werth cymdeithasol cyffredinol y gwasanaeth hunan-samplu.
Yn seiliedig ar sampl fach, mae’r canlyniadau’n dangos bod gwerth posibl o £4.14 wedi’i greu am bob £1 a wariwyd ar y gwasanaeth hunan-samplu yn y carchar. Arweiniodd hyn at gymhareb o £4.14:£1. Roedd tua un rhan o dair o’r gwerth a grëwyd (£1,517.95) wedi’i gategoreiddio fel un adenilladwy yn ariannol. Roedd y gwerth a oedd yn weddill (£3,260.40) yn werth cymdeithasol darluniadol yn unig, er enghraifft llesiant meddyliol gwell.
Mae’r astudiaeth beilot unigryw hon yn dangos effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol ehangach darparu gwasanaeth iechyd rhywiol hunan-samplu i garcharorion mewn carchar agored. Drwy roi prawf arloesol ar ymarferoldeb defnyddio proses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ochr yn ochr â dadansoddiadau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi, mae’r papur hwn wedi amlinellu sut y gellir defnyddio’r fframweithiau mewn synergedd i ddangos nid yn unig adenillion uniongyrchol o fuddsoddi ond hefyd gwerth cymdeithasol darparu gwasanaeth o’r fath.
Awduron: Kathryn Ashton, Aimee Challenger+ 6 mwy
, Christie Craddock, Timo Clemens, Jordan Williams, Oliver Kempton, Mariana Dyakova, Liz Green
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Fel llawer o ardaloedd ledled y DU, mae Coventry yn wynebu anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig ymhlith ei chymunedau mwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, bu cynnydd nodedig. Yn y blog hwn, rydym yn tynnu sylw at y gwaith effeithiol y mae Cyngor Dinas Coventry wedi’i wneud hyd yn hyn. Menter allweddol yw Siop Swyddi’r ddinas, sy’n gweithredu model “prif ganolfan a lloerennau”, sy’n cynnig cymorth personol mewn lleoliadau cymunedol i rymuso trigolion. Mae’r blog hwn hefyd yn archwilio sut mae dull Dinas Marmot yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhannu gwersi gwerthfawr a ddysgwyd ar hyd y ffordd.
Gan gydnabod pwysigrwydd cynnwys pawb yn yr ateb, mae Uned Atal Trais Cymru wedi lansio’r ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais’, mewn partneriaeth â Plan International UK. Mae’r Pecyn Cymorth hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth academaidd ac arbenigedd proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu rhaglenni cynhwysol, hygyrch a diddorol i ddynion a bechgyn.
Fel rhan o’r broses o roi Fframwaith Cymru Heb Drais ar waith, bydd y Pecyn Cymorth yn parhau i ddatblygu er mwyn darparu amrywiaeth o wybodaeth hygyrch er mwyn deall, cefnogi a chynnal asesiad beirniadol o’r rhan y gall rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi dynion a bechgyn ei chwarae wrth atal trais. Ar hyn o bryd, mae’r pecyn cymorth yn cynnwys dau adroddiad a ffeithlun:
-“Rydych chi wedi rhoi’r hyder i mi herio’r ffordd y mae bechgyn yn trin merched” Canfyddiadau Allweddol o Brosiectau ‘Profi a Dysgu’ yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o brosiectau Profi a Dysgu Plan International UK. Yn bennaf, mae’n archwilio tystiolaeth o ymarfer ac o lenyddiaeth sy’n ymdrin â’r ffactorau galluogi a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â dynion a bechgyn wrth atal trais.
-Buddsoddi mewn cynghreiriaid a chenhadon – ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais: Adolygiad o Raglenni yng Nghymru – mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhaglenni yng Nghymru sy’n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Nodwyd y rhaglenni hyn gan weithwyr proffesiynol fel rhan o arolwg, ac mae’r adroddiad hwn yn darparu ystyriaethau i ymarferwyr, ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi a chomisiynwyr mewn perthynas â datblygu prosiectau, gan gynnwys gwerthuso, a rhoi prosiectau ar waith.
-Ffeithlunsy’n nodi’r ystyriaethau allweddol sy’n deillio o’r ddau adroddiad wrth gynllunio a gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais.
Cliciwch yma i edrych ar y Pecyn Cymorth: https://cymruhebdrais.com/adnoddau
Awduron: Alex Walker, Lara Snowdon+ 4 mwy
, Shauna Pike, Bryony Parry, Emma Barton, Anne-Marie Lawrence
Mae’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n arwain mentrau ar lefel gymunedol sydd eisoes yn cyfrannu at y weledigaeth i Gymru ddod yn genedl sy’n ystyriol o drawma drwy weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar drawma. Pwrpas yr adroddiadau hyn yw taflu goleuni ar y dulliau presennol o weithredu, dathlu eu gwaith a pharhau i lywio a chefnogi’r gwaith o weithredu Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a datblygu ymhellach ein pecyn cymorth sefydliadol ar sail Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE).
Mae Sbotolau ar Ynys Môn yn archwilio taith Ynys Môn i ddod yn ynys sy’n ystyriol o drawma. Mae taith Ynys Môn i fod yn ynys sy’n ystyriol o drawma ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau sy’n creu amgylchedd seicogymdeithasol cadarnhaol a lefel uchel o wydnwch cymunedol.
Mae Sbotolau ar Home Start Cymru yn arddangos eu gwaith gwych gyda theuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru, a sut y gall ymarfer sy’n ystyriol o drawma newid bywydau pobl trwy ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd. Mae eu hymagwedd sefydliadol sy’n ystyriol o drawma yn ddull systemau cyfan sy’n seiliedig ar gryfderau sydd hefyd yn cefnogi eu gweithlu a’u gwirfoddolwyr drwy gydnabod eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
Cydnabyddir yn fyd-eang bod Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yn ffactor risg ar gyfer problemau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ymwybyddiaeth o ACEs a thrawma cysylltiedig yn cynyddu mewn ysgolion a lleoliadau addysgol, yn ogystal â’r galw am wasanaethau cefnogol i fynd i’r afael ag anghenion. Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth glir o ymyriadau effeithiol y gellir eu darparu gan rai nad ydynt yn glinigwyr (e.e. staff yr ysgol).
Datgelodd yr adolygiad systematig hwn o bump ar hugain o astudiaethau dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o effaith ymyriadau sy’n cael eu darparu gan rai nad ydynt yn glinigwyr ar wella canlyniadau iechyd meddwl mewn pobl ifanc sydd wedi profi ACEs. Yn benodol, tystiolaeth o effeithiolrwydd grwpiau seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ac ymyriadau sy’n cynnwys rhai sy’n rhoi gofal.
Archwiliodd yr astudiaeth hon barhad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) rhwng y cenedlaethau mewn poblogaeth sy’n ymwneud â chyfiawnder gwrywaidd. Cwblhaodd 294 o dadau 18-69 oed mewn carchar yng Nghymru holiadur yn archwilio eu hamlygiad i ACEs. Roedd yr holiadur hefyd yn mesur amlygiad pob plentyn yr oeddent wedi eu tadogi i ACE. Canfu’r astudiaeth dystiolaeth o barhad mathau o ACE rhwng cenedlaethau. Canfuwyd bod amlygiad tadau i ACE yn cynyddu’r risg y byddai eu plant yn dod i gysylltiad ag ACE, i fwy nag un math o ACE ac ACE unigol fel ei gilydd.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mai 2024 sy’n cwmpasu: Carbon monocsid; Brechlynnau; Heintiau; a Stigma iechyd.
Mae’r darn hwn o waith yn canolbwyntio ar effeithiau posibl tueddiadau’r dyfodol ar ein cysylltedd cymdeithasol a’n rhwydweithiau cymunedol (ein ‘cyfalaf cymdeithasol’) dros yr hanner can mlynedd nesaf. Ei nod yw archwilio rhai o’r ffactorau a all gefnogi a chryfhau cyfranogiad cymdeithasol a rhwydweithiau mewn cymunedau Cymreig, fel nodwedd ganolog o gymdeithas iach a llewyrchus, a’r rhai a all fod mewn perygl o ddieithrio, pegynu ac ynysu unigolion a grwpiau. Nid yw’r adroddiad hwn yn anelu at ragweld y dyfodol ond yn hytrach ysgogi pobl i feddwl am yr heriau, y cyfleoedd, a’r posibiliadau hirdymor y gall tueddiadau’r dyfodol eu cyflwyno.
Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol ond un hollbwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch rôl, drwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u datblygu i arwain y gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o 22 o fframweithiau ac offer tegwch iechyd i gefnogi llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithio tuag at degwch iechyd. Daethpwyd o hyd i fframweithiau ac offer trwy chwilio adnoddau rhyngwladol a chenedlaethol allweddol.
Awduron: Jo Peden, Rhiannon Griffiths+ 3 mwy
, Sara Southall, Rebecca Hill, Lauren Couzens (née Ellis)
Myfyrdodau gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nod yr adolygiad hwn yw cydgrynhoi a gwella’r sylfaen dystiolaeth ar atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus, er mwyn deall y cyffredinrwydd, yr achosion ac ymyriadau effeithiol. Bydd yn llywio blaenoriaeth ffrwd waith y Glasbrint yn uniongyrchol: Aflonyddu ar sail Rhywedd ym mhob Man Cyhoeddus. Mae’r dull Glasbrint wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Penderfynyddion Masnachol Iechyd: Plant a Phobl Ifanc
Mae’r calendr cryno hwn, y pedwerydd i’w gyhoeddi, yn cyflwyno trosolwg byr a rhyngweithiol o’r pum Adroddiad Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu o 2023-2024. Mae’r themâu’n cynnwys:
• Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
• Iechyd a Llesiant Meddwl Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
• Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd
• Gwreiddio Atal mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
• Effaith tlodi ar fabanod, plant a phobl ifanc
Gall ymddiriedaeth mewn systemau iechyd a systemau eraill effeithio ar y nifer sy’n manteisio ar gyngor iechyd y cyhoedd ac sy’n ymgysylltu â gwasanaethau iechyd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cynyddu risgiau unigolion o salwch, ac felly mae deall sut mae ACEs yn effeithio ar ymddiriedaeth mewn ffynonellau cyngor iechyd a chymorth arall yn bwysig i lywio ymgysylltiad â’r grŵp hwn sy’n agored i niwed. Archwiliodd yr astudiaeth hon y cysylltiadau rhwng ACEs ac ymddiriedaeth mewn cyngor iechyd, gwybodaeth arall a gwasanaethau cyhoeddus mewn sampl cynrychioliadol cenedlaethol o 1,880 o oedolion yng Nghymru.
Mae pecyn cymorth ar gael i staff y mae eu gwaith yn ymwneud ag iechyd rhyngwladol a gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y byd. Bydd y pecyn cymorth gweithredu yn helpu staff mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i drosi’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru yn arferion gweithredol.
Er gwaethaf datblygiadau o ran cael eu derbyn ar lefel gymdeithasol a hawliau cyfreithiol, mae unigolion LHDTCRhA+ yn parhau i wynebu gwahaniaethau sylweddol o ran iechyd meddwl, iechyd rhywiol a mynediad at ofal iechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd ymhlith y cymunedau LHDTCRhA+ yng Nghymru yn her enbyd.
Mae’r blog hwn yn disgrifio’r heriau a brofir gan gymunedau LHDTCRhA+ yng Nghymru o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys polisïau strategol sy’n gwneud gwahaniaeth, gan sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd sy’n deg i bawb. Mae’r blog hefyd yn tynnu sylw at ymdrechion trawsnewidiol sydd nid yn unig yn ail-lunio iechyd y cyhoedd ond sydd hefyd yn gosod cynseiliau ar gyfer cynhwysiant ledled y wlad.
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Yn 2016, pleidleisiodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi creu ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach yn negodi ei chytundebau masnach ei hun, ac ym mis Mawrth 2023, cytunodd i ymuno â Chytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP). Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn 2022–23 i ragweld effaith bosibl Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd a llesiant Poblogaeth Cymru. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac yn amlygu gwerth y dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a hysbysu llunwyr polisi. Roedd yr HIA hwn yn dilyn dull pum cam safonol a oedd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth i nodi effeithiau posibl ar iechyd, cyfweliadau ansoddol â rhanddeiliaid traws-sector a datblygu proffil iechyd cymunedol. Nododd yr HIA effeithiau posibl ar draws penderfynyddion ehangach iechyd a grwpiau poblogaeth agored i niwed penodol. Nodwyd mecanweithiau setlo anghydfod gwladwriaethau buddsoddwyr, ansicrwydd economaidd a cholli gofod polisi rheoleiddio fel llwybrau allweddol ar gyfer effeithiau iechyd. Mae’r canfyddiadau wedi bod yn fuddiol wrth hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i baratoi ar gyfer y CPTPP yng Nghymru gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r gwaith hwn wedi dangos gwerth dull HIA sy’n defnyddio proses dryloyw i gasglu ystod eang o dystiolaeth, gan arwain at ddysgu trosglwyddadwy.
Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 6 mwy
, Leah Silva, Courtney McNamara, Michael Fletcher, Louisa Petchey, Timo Clemens, Margaret Douglas
Mae (ACEs) yn ystod Plentyndod yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel cam-drin plant a dod i gysylltiad ag anawsterau yn y cartref a thrais domestig, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl ac aelodau o’r teulu yn y carchar. Dadansoddodd yr astudiaeth ddata a gasglwyd gan 1,880 o oedolion sy’n byw ledled Cymru. Canfu fod y rhai a adroddodd am fwy nag un Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod niferus yn llawer mwy tebygol o ganfod na fyddent yn gallu ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, yn annibynnol ar ffactorau gan gynnwys lefel incwm y cartref, statws cyflogaeth ac amddifadedd preswyl.
Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 4 mwy
, Katie Cresswell, Rebecca Hill, Kat Ford, Joanne C. Hopkins
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth ond nid yw eu cysylltiad ag ymgysylltu â gofal iechyd wedi’i archwilio’n ddigonol o hyd, yn enwedig yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar-lein gydag oedolion sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, a ddatblygwyd i archwilio’r cysylltiad rhwng ACEs ac ymgysylltu â gofal iechyd, gan gynnwys bod yn gyfforddus o ran defnyddio gwasanaethau gofal iechyd.
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.