Llesiant yn ystod y gaeaf: camau gweithredu ac effeithiau a rennir
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf, mewnwelediadau ymddygiadol ac offer ymarferol i gefnogi cydweithwyr a gwasanaethau iechyd a gofal i baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
Mae’r adroddiad sy’n dwyn y teitl, Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Gweithredu ac Effaith a Rennir, wedi’i gynllunio i ategu fframweithiau cynllunio ar gyfer y gaeaf presennol y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi canllawiau ymarferol a rhestrau gwirio i helpu timau i gryfhau gwydnwch y system, cynnal iechyd y boblogaeth, a lleihau’r galw am wasanaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith atal, yn cynnwys diogelu rhag feirysau’r gaeaf trwy gael eich brechu yn erbyn y ffliw, RSV a COVID-19, aros yn egnïol, bwyta prydau cynnes, cadw golwg ar ein cymdogion, a chymryd fitamin D bob dydd i aros yn iach yn ystod y misoedd oerach.