Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Mynd i’r Afael â Thlodi Plant: Model Polisi’r Alban

Mae cyfraddau tlodi plant yn y DU wedi gwaethygu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu’r broblem ymhellach.

Yr Alban yw’r unig genedl yn y DU ble mae cyfraddau tlodi blynyddol yn gwella, gyda chynnydd yn seiliedig ar strategaethau sy’n cynnwys incwm, cyflogaeth, a diogelu cymdeithasol, wedi’u cefnogi gan bolisi ac buddsoddiad wedi’u targedu.

Mae’r newyddlen sbotolau hon yn archwilio dull yr Alban o weithredu yn seiliedig ar atebion, gan gyfuno polisi, buddsoddiad, a phersbectif iechyd cyhoeddus. Mae ei phrofiad yn cynnig gwersi gwerthfawr i Gymru a gwledydd eraill.

Awduron: Lewis Brace

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus – Mehefin 2025 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mehefin 2025 sy’n cwmpasu: Diabetes math 2, defnydd menig mewn lleoliadau gofal iechyd, anymataliaeth, iechyd deintyddol, newid hinsawdd a polisi iechyd cyhoeddus.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 mwy
, Carys Dale
Factors associated with childhood out-of-home care entry and re-entry in high income countries A systematic review of reviews

Ffactorau sy’n gysylltiedig â mynediad ac ail-fynediad at ofal y tu allan i’r cartref yn ystod plentyndod mewn gwledydd incwm uchel: Adolygiad systematig o adolygiadau

Gall lleoliadau gofal y tu allan i’r cartref gael effaith ddofn ar blant, eu teuluoedd a chymdeithas. Mae’r adolygiad systematig hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiadau presennol ar ffactorau sy’n gysylltiedig â mynediad ac ail-fynediad at ofal y tu allan i’r cartref.

Mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig â mynediad at ofal y tu allan i’r cartref, sy’n cynnwys ffactorau ar lefel y plentyn (ethnigrwydd, iechyd, ymddygiad), ffactorau ar lefel y teulu (anhawsterau economaidd-gymdeithasol rhieni, camddefnyddio sylweddau), ffactorau ar lefel y gymuned (amodau cymdogaeth), a ffactorau ar lefel y system (ymwneud blaenorol â llesiant plant). Mae’r adolygiad hefyd yn nodi sawl ffactor sy’n gysylltiedig â phlant yn aros gyda’u teuluoedd genedigol ac nid yn mynd at ofal y tu allan i’r cartref.

Mae ffactorau sy’n gysylltiedig â mynediad at ofal y tu allan i’r cartref yn ystod plentyndod yn amlochrog ac yn gymhleth. Mae cyfle i lunwyr polisi ac ymarferwyr fabwysiadu ymyriadau ataliol a holistaidd i hyrwyddo llesiant a sefydlogrwydd plant a theuluoedd.

Awduron: Richmond Opoku, Natasha Judd+ 10 mwy
, Katie Cresswell, Michael Parker, Michaela James, Jonathan Scourfield, Karen Hughes, Jane Noyes, Dan Bristow, Evangelos Kontopantelis, Sinead Brophy, Natasha Kennedy

Perthnasoedd cymharol rhwng cam-drin plant yn gorfforol ac yn eiriol, lles meddyliol cwrs bywyd a thueddiadau mewn amlygiad: dadansoddiad eilaidd aml-astudiaeth o arolygon trawstoriadol yng Nghymru a Lloegr

Archwiliodd yr astudiaeth hon y perthnasoedd rhwng cam-drin corfforol a geiriol yn ystod plentyndod a llesiant meddyliol oedolion. Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMJ Open, ddata o arolygon a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2024. Canfu fod cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd tebyg mewn risg o fod â llesiant meddyliol isel â cham-drin corfforol yn ystod plentyndod. Mesurodd yr astudiaeth hefyd dueddiadau mewn cam-drin corfforol a geiriol a hunan-adroddwyd ar draws y carfanau geni.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 mwy
, Kat Ford, Zara Quigg, Nadia Butler, Charley Wilson

Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt: Crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid

Gall ein cartrefi lunio ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol yn sylweddol.
Mae’r papur hwn yn nodi’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud ochr yn ochr â rhanddeiliaid tai eraill i ddychmygu dyfodol o gartrefi iachach, yn enwedig i’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’n crynhoi mewnwelediadau a gafwyd o sgyrsiau â rhanddeiliaid a gweithdy yn canolbwyntio ar y dyfodol, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar ddau adroddiad blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – sef adroddiad cyffredinol, cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant, ac ail adroddiad ar fforddiadwyedd. Yma, rydym yn mynd gam ymhellach ac yn taflu goleuni ar ansawdd tai, fforddiadwyedd a diogelwch, a’r effaith y mae hyn yn ei chael yn benodol ar lesiant plant a theuluoedd.

Awduron: Joe Rees, Menna Thomas
Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7 Gorffennaf 2025

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7: Gorffennaf 2025

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Laura Holt, Jo Harrington+ 4 mwy
, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Dr Stanley Upkai, Malek Mhd Al Dali

E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus

Mae’r E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yn adnodd cam wrth gam sy’n esbonio sut i ddefnyddio dulliau sydd â ffocws cymdeithasol i wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethu ariannol.

Ei nod yw cefnogi rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, ymchwilwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall a chofnodi gwerth cymdeithasol yr ymyriadau a’r gwasanaethau y maent yn eu dylunio a’u darparu.

Mae’r E-Ganllaw yn cyflwyno dulliau ac adnoddau i fabwysiadu ymagwedd gwerth cymdeithasol gan gynnwys dulliau fel Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddiad a Dadansoddiad Costau Buddion Cymdeithasol, wedi’u teilwra’n benodol i’r cyd-destun iechyd cyhoeddus.

Awduron: Andrew Cotter-Roberts, Anna Stielke+ 2 mwy
, Cathy Madge, Mariana Dyakova
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Canfyddiadau arolwg rhanbarthol i Neath Port Talbot 2025

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Canfyddiadau arolwg rhanbarthol i Neath Port Talbot 2025

I gefnogi ymateb Ffrwd Waith Cysylltiadau Cymunedol a Llesiant Bwrdd Pontio TATA Steel y DU, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg rhanbarthol fel rhan o Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd i ymchwilio i statws iechyd, cymdeithasol ac ariannol pobl sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth i’r ardal brofi’r newidiadau yn TATA Steel. Cwblhawyd yr arolwg rhwng Ionawr a Mawrth 2025 gyda 301 o bobl a oedd yn gynrychioliadol o’r ardal leol yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg rhanbarthol.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 3 mwy
, Charlotte Grey, Carys Dale, Lucia Homolova

CRCI Adroddiad Cynnydd 2022-2024

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio gweithgareddau’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI), a’r gweithgarwch iechyd rhyngwladol ehangach a’r gwaith partneriaeth a gynhaliwyd yn GIG Cymru rhwng 2022 a 2024. Mae’n yn amlinellu cynnydd y CRCI o ran llywio a galluogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) ar draws y GIG a dangos yr offer a ddefnyddir i alluogi dysgu ar y cyd, hwyluso synergeddau ar draws y GIG a thraws-sector, a sicrhau’r buddion mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.

Awduron: Liz Green, Laura Holt+ 1 mwy
, Graeme Chisholm

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Chwefror 2025 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Chwefror 2025 sy’n cwmpasu: Gofal sylfaenol ac anghydraddoldebau iechyd; Darparu gwasanaethau gofal sylfaenol; Cysylltedd cymdeithasol; Llesiant personol; Sicrwydd ariannol; Isafbris am uned o alcohol; Sgrinio’r fron a deallusrwydd artiffisial.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 2 mwy
, Lewis Brace, Carys Dale

Gwyddor Ymddygiad Ar Waith | Uned Gwyddor Ymddygiad @ Iechyd Cyhoeddeus Cymru | Adolygiad 2024-25

Mae’r adroddiad hwn ar gyfer staff, timau a gwasanaethau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r system iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn nodi’r amrywiaeth o waith, ar draws yr ystod o flaenoriaethau, y mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n gweithgareddau allweddol. Mae’n cydnabod y partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni, yn rhoi mewnwelediad i’r rhai sy’n ystyried gweithio gyda ni ac yn myfyrio ar ein heffaith yn ogystal â’n cyflawniad.

Awduron: Jason Roberts, Jennifer Thomas+ 2 mwy
, Jonathan West, Ashley Gould

Nodi opsiynau polisi i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd: dadansoddi polisi a chyfleoedd dysgu i Gymru

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad hwn yn amlygu’r angen am ddulliau polisi cynhwysfawr ac amlochrog i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r dystiolaeth yn amlygu pwysigrwydd cadw mynediad teg at ofal iechyd, ehangu’r wladwriaeth les, a thargedu ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd trwy strategaethau rhyng-sectorol cydgysylltiedig. Drwy ddysgu o enghreifftiau rhyngwladol ac addasu polisïau llwyddiannus, gall Cymru weithio tuag at gamau gweithredu effeithiol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a lles cyffredinol y boblogaeth.

Awduron: Lisa Jones, Mennatallah Abdelgawad+ 1 mwy
, Professor Mark Bellis

BICI: Menter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad Llyfr Gwaith

Mae’r llyfr gwaith rhyngweithiol hwn yn adeiladu ar fframwaith ‘SCALE’, a gyflwynwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad am y tro cyntaf yn 2023. Mae’r llyfr gwaith yn cynnwys nifer o weithgareddau, sydd wedi’u cynllunio i helpu i’ch arwain trwy’r broses o ddatblygu darn o gyfathrebu trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Ashley Gould+ 2 mwy
, Jennifer Thomas, Melda Lois Griffiths

Menter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddgiad Astudiaethau Achos

Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI) gyntaf yn 2024, a daeth dros 30 o unigolion o amrywiaeth o dimau gwahanol â darn o gyfathrebu i’w wella trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad. Mae’r casgliad hwn o astudiaethau achos yn helpu i amlinellu’r defnydd go iawn o Gyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad. Maent yn cynnwys gwaith gan dimau sgrinio, timau brechu, yn ogystal â Gofal Sylfaenol Gwyrddach a Gofal Sylfaenol.

Awduron: Alice Cline, Ashley Gould

Amlygiad i Drawma Mewn Oedolaeth a Phrofiadau Hunanladdol Ymhlith Milwyr a Chyn-filwyr: Adolygiad Systematig a Metaddadansoddiad

Mae ymchwil wedi dangos yn gyson amlygrwydd uwch o heriau iechyd meddwl a syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol ymhlith personél milwrol ar ddyletswydd weithredol a chyn-filwyr o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. Gall profiadau trawmatig mewn oedolaeth, yn enwedig y rhai a wynebir yn ystod dyletswydd filwrol, gynyddu’r risg o syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol yn sylweddol. Nod yr adolygiad systematig a’r meta-ddadansoddiad hwn oedd archwilio’r berthynas rhwng amlygiad i drawma mewn oedolaeth a phrofiadau hunanladdol mewn poblogaethau milwrol.

Mae’r canfyddiadau’n dangos bod digwyddiadau trawmatig cyn gwasanaeth a’r rhai a brofwyd yn ystod cyflogaeth yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o syniadaeth ac ymdrechion hunanladdol. Mae’r astudiaeth yn tanlinellu’r angen hanfodol am ymyriadau wedi’u targedu i ymdrin â thrawma ymhlith personél milwrol.

Awduron: Ioannis Angelakis, Josh Molina+ 4 mwy
, Charis Winter, Kat Ford, Neil Kitchiner, Karen Hughes

Menter Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad (BICI): Adroddiad Datblygu a Gweithredut

Lansiwyd y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad ym mis Mehefin 2024, gyda dros 35 o randdeiliaid o ystod o dimau gwahanol yn dod â darn o gyfathrebu i’w optimeiddio trwy gymhwyso gwyddor ymddygiad. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am sut y cafodd y fenter ei datblygu a’i chyflwyno, gan gynnwys mewnwelediad gwerthuso prosesau gan fynychwyr carfanau a dwy astudiaeth achos.

Awduron: Alice Cline, Ashley Gould

Sganio’r Gorwel: A ddylai eich sefydliad ei wneud ac, os felly, sut?

Mae meddwl hirdymor yn allweddol i sicrhau Cymru iachach, fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Rydym yn wynebu cyfnod heriol yng Nghymru, gyda’n gwasanaethau gofal iechyd, y sector cyhoeddus ehangach, a’r trydydd sector dan straen nas gwelwyd o’r blaen. Mae hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed, ond hefyd yn anoddach nag erioed, i gydbwyso rheoli argyfyngau heddiw ag atal argyfyngau’r dyfodol. Mae angen i ni wybod beth sydd ar y gorwel er mwyn lleihau’r annisgwyl a gwneud gwell penderfyniadau.

Dyma’n union y mae ein pecyn cymorth Sganio’r Gorwel newydd, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn bwriadu ei gefnogi.

Awduron: Louisa Petchey, Petranka Malcheva

Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) ar ymyriadau’n ymwneud ag iechyd meddwl – Adolygiad cwmpasu

Mae Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) yn ddull methodolegol sydd yn ymgorffori pob un o’r dair agwedd o werthuso ymyriadau. Problemau iechyd meddwl yw un o brif achosion salwch ac anabledd yn fyd-eang. Nod yr astudiaeth hon yw mapio tystiolaeth bresennol o werth cymdeithasol ymyriadau iechyd meddwl sy’n defnyddio methodoleg SROI. Yr adolygiad cwmpasu hwn yw’r cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar SROI o ymyriadau iechyd meddwl, yn canfod nifer dda o astudiaethau SROI sydd yn dangos adenillion cadarnhaol o fuddsoddi gyda’r ymyriadau a nodir. Cynhyrchwyd briff tystiolaeth yn amlinellu canfyddiadau allweddol yr adolygiad cwmpasu. Mae’r briff tystiolaeth yn amlygu gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd meddwl mewn gwledydd incwm uchel a chanolig ac yn amlinellu enghreifftiau unigol.

Awduron: Rajendra Kadel, Anna Stielke+ 3 mwy
, Kathryn Ashton, Rebecca Masters, Mariana Dyakova

Yr Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar Ymyraethau sy’n Cynnwys Gweithgarwch Corfforol a Maeth—adolygiad Cwmpasu.

Mae prinder adnoddau iechyd y cyhoedd a phwysau cynyddol ar systemau iechyd megis y pandemig Covid-19, yn ei gwneud yn hanfodol gwerthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd gan ymwrthod o ddulliau gwerthuso traddodiadol. Mae hyn yn bwysig er mwyn deall nid yn unig gwerth ariannol ymyriadau iechyd y cyhoedd, ond hefyd y gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach. Nod yr adolygiad hwn yw cyflwyno sylfaen dystiolaeth bresennol yr Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar ymyraethau sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a maeth, gan arddangos manteision cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yr ymyriadau hyn.

Mae’n dod yn fwyfwy pwysig bod effaith holistaidd ymyriadau a rhaglenni maeth a gweithgarwch corfforol yn cael ei deall er mwyn galluogi datblygu a gweithredu ymyriadau sydd â’r gwerth mwyaf i bobl. Cynhyrchwyd briff tystiolaeth sy’n amlinellu canfyddiadau allweddol yr adolygiad cwmpasu. Mae’n rhoi enghreifftiau unigol o werth cymdeithasol ymyriadau a nodwyd gyda’r nod o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella maeth.

Awduron: Anna Stielke, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Mariana Dyakova

Gwerth cymdeithasol buddsoddi yn iechyd y cyhoedd ar draws cwrs bywyd: adolygiad cwmpasu systematig

Mae’r adolygiad hwn yn mapio trosolwg o gymhwyso Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) a Dadansoddiad Cost a Budd (SCBA) mewn llenyddiaeth bresennol i nodi gwerth cymdeithasol ymyriadau iechyd y cyhoedd yn ystod cyfnodau unigol cwrs bywyd.
Amlygir pwysigrwydd cael gwerth cymdeithasol ac mae’r canlyniadau’n dangos gwerth cadarnhaol buddsoddi mewn ymyriadau iechyd y cyhoedd. Gellir defnyddio’r dystiolaeth hon fel man cychwyn gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol a sefydliadau sy’n edrych y tu hwnt i fesurau economaidd traddodiadol, a thuag at gipio gwerth cymdeithasol wrth fuddsoddi mewn ymyriadau ar draws cwrs bywyd. Mae briff tystiolaeth wedi’i gynhyrchu sy’n amlinellu canfyddiadau allweddol yr adolygiad cwmpasu ac yn rhoi enghreifftiau unigol o werth cymdeithasol ymyriadau ar gamau unigol o gwrs bywyd a nodwyd yn yr adolygiad cwmpasu.

Awduron: Kathryn Ashton, Peter Schröder-Bäck+ 4 mwy
, Timo Clemens, Mariana Dyakova, Anna Stielke, Mark Bellis

Dylanwad Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws y system iechyd cyhoeddus: Gwerthusiad mapio realaidd o’r crycheffeithiau

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu sy’n cynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu, a’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad mewn polisi ac mewn ymarfer. Fel dull hanfodol o wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau, gall gwyddor ymddygiad helpu i wneud y gorau o bolisïau, gwasanaethau a chyfathrebu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwerthusiad hwn o effeithiau ehangach realaidd yn darparu argymhellion allweddol i ysgogi effaith barhaus.

Awduron: Jennifer Thomas, Alice Cline+ 3 mwy
, Ashley Gould, Kevin Harris, Lois Ryan
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus - Tachwedd 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Tachwedd 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Tachwedd 2024 sy’n cwmpasu: Disgwyliad oes iach, Ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd, Brechlynnau a’r dull atal trais o’r enw Stopio a Chwilio.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 mwy
, Lewis Brace

Hyfforddiant Trawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru: deall y ddarpariaeth bresennol a’r bylchau

Mae’r adroddiad yn archwilio’r hyfforddiant sydd ar gael yn ymwneud â thrawma ac anghenion ymarferwyr Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru. Daw dysgwyr ESOL o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches a brofodd drawma cymhleth. Mae’n hanfodol bod darparwyr ESOL yn derbyn hyfforddiant i gynnig cefnogaeth gwerthfawr i’r dysgwyr hynny. Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o gyfweliadau gydag ymarferwyr ESOL ledled Cymru, gan archwilio eu profiadau o hyfforddiant a nodi anghenion hyfforddi ychwanegol. Bydd argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynyddu’r ddarpariaeth hyfforddiant sy’n seiliedig ar drawma yng Nghymru. Mae’r adroddiad wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferwyr ESOL a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn dulliau addysgu sy’n seiliedig ar drawma.

Awduron: Natasha Judd, Kat Ford+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Rebecca Fellows, Karen Hughes

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn yr ysgol: astudiaeth drawstoriadol ôl-weithredol sy’n archwilio eu cysylltiadau ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd ac iechyd meddwl

Archwiliodd yr astudiaeth hon y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), profiadau yn yr ysgol a deilliannau iechyd mewn oedolaeth mewn sampl o boblogaeth gyffredinol oedolion Cymru. Canfu fod ACEs a phrofiadau negyddol yn yr ysgol (yn sgil cael eu bwlio ac ymdeimlad is o berthyn i’r ysgol) yn cael eu cysylltu’n annibynnol ag iechyd meddwl gwaeth mewn oedolaeth. Roedd profi ACEs a chael profiadau negyddol yn yr ysgol yn gwaethygu’r risg o iechyd meddwl gwaeth. Mae’r astudiaeth yn nodi’r rôl amddiffynnol y gall ysgolion ei chwarae wrth feithrin gwydnwch ymhlith plant sy’n profi adfyd yn eu cartrefi.

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 5 mwy
, Kat Ford, Catherine Sharp, Joanne C. Hopkins, Rebecca Hill, Katie Cresswell