Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Prif Adroddiad Achos dros Fuddsoddi

Mae’r adroddiad hwn yn estyniad o gyhoeddiadau Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i nod yw llywio, cefnogi ac eirioli polisi iechyd ehangach ac ymagweddau ac ymyriadau traws-sector sy’n cynnig manteision i’r cyhoedd, y system iechyd, cymdeithas a’r economi. Mae’r adroddiad yn crynhoi effaith tai (ar draws deiliadaeth) ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd; mae’n cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn tai fel penderfynydd iechyd trwy nodi pa ymyriadau sy’n gweithio ac yn cynnig gwerth am arian; ac yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ataliol yng Nghymru.

Awduron: Ian Watson, Fiona MacKenzie+ 2 mwy
, Louise Woodfine, Sumina Azam

WHIASU Fframwaith Hyfforddiant a Meithrin Gallu ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd

Yr wythnos hon mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyfforddiant a meithrin gallu AEI. Mae’r adroddiad technegol yn gosod fframwaith cynhaliol am ddull WHIASU o gynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso’r hyfforddiant a meithrin gallu ar gyfer AEI dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r fframwaith yn ganlyniad 18 mis o ymchwil, datblygiad ac ymgysylltiad. Mae’r ddogfen dechnegol yn manylu ‘Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth ar gyfer AEI’ a ‘Llwybr Datblygu AEI’ a ddatblygir yn ddiweddar ac sy’n medru cynorthwyo datblygiad y gweithlu a meithrin gallu.
Datblygwyd y fframwaith gydag ymgysylltiad ac adborth gan ymarferwyr AEI o Gymru a thu hwnt. Yn ogystal, cynlluniwyd gyda mewnbwn gan randdeilliaid allweddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, swyddogion cynllunio, ymarferwyr iechyd yr amgylchedd ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Awduron: Nerys Edmonds, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Liz Green

Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Adolygiad cwmpasu.

Adolygiad cwmpasu i archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymholiadau arferol ôl-weithredol mewn oedolion ar gyfer ACEs, gan gynnwys dichonoldeb a derbynioldeb ymhlith ymarferwyr, derbynioldeb defnyddwyr gwasanaeth a chanlyniadau gweithredu.

Awduron: Kat Ford, Karen Hughes+ 5 mwy
, Katie Hardcastle, Lisa Di Lemma, Davies AR, Edwards S, Mark Bellis

Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Datrysiadau iechyd y cyhoedd

Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn dangos canlyniadau negyddol eithafiaeth dreisgar ar gyfer y boblogaeth gyfan i lesiant a chydlyniad ein cymunedau. Maent yn nodi sut y gall tlodi, anghydraddoldebau, unigedd, cam-drin yn ystod plentyndod, anawsterau gyda hunaniaeth a salwch meddwl gyfrannu at risgiau eithafiaeth dreisgar. Yn bwysicach na dim, mae’r adroddiad yn archwilio sut y gall ymagwedd iechyd y cyhoedd gynnig datrysiadau sy’n targedu’r ffactorau risg hyn tra bod gweithgarwch yr heddlu yn parhau i fynd i’r afael â’r rhai sydd eisoes yn cynllunio erchyllterau terfysgol yn rhagweithiol.

Awduron: Mark Bellis, Katie Hardcastle

Astudiaeth HEAR

Mae’r astudiaeth hon yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth am brofiadau oedolion sydd yn geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yng Nghymru o wasanaethau iechyd, er mwyn llywio polisi ac ymarfer gyda’r nod o wireddu uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa, a chefnogi’r sylw cyffredinol y mae iechyd yn ei gael yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Awduron: Ashrafunessa Khanom, Wdad Alanazy+ 20 mwy
, Lauren Couzens (née Ellis), Bridie Angela Evans, Lucy Fagan, Alex Glendenning, Matthew Jones, Ann John, Talha Khan, Mark Rhys Kingston, Catrin Manning, Sam Moyo, Alison Porter, Melody Rhydderch, Gill Richardson, Grace Rungua, Daphne Russell, Ian Russell, Rebecca Scott, Anna Stielke, Victoria Williams, Helen Snooks

Cysylltiadau rhwng marwolaethau plentyndod a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Archwiliad o ddata gan banel trosolwg marwolaethau plant.

Astudiaeth i archwilio a ellid defnyddio data a gesglir yn arferol gan baneli trosolwg marwolaethau plant (CDOPs) i fesur amlygiad i ACE ac archwilio unrhyw gysylltiadau rhwng ACEs a chategorïau marwolaethau plant. Astudiwyd data yn cwmpasu pedair blynedd (2012-2016) o achosion o CDOP yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Awduron: Hannah Grey, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark Bellis, Helen Lowey, Sara Wood

Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir a, thrwy wneud hynny, yn hybu cadernid ecosystemau.

Mae Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 yn amlinellu sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynd i’r afael â’i ddyletswydd bioamrywiaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac wedi cyflawni’r gweithredoedd a nodwyd yn ei Gynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Awduron: Richard Lewis

Ni yw’r Newid – Treftadaeth Iach

Mae ‘Treftadaeth Iach’ yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd ymarferol y gallwn gyfrannu at Nodau Llesiant Cymru trwy gefnogi ein diwylliant a’r iaith Gymraeg yn y gweithle.

Trwy warchod a dysgu o’n hanes a’n diwylliant gallwn ail-fywiogi, diogelu a rhannu ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein treftadaeth yn offeryn allweddol i gefnogi newid cadarnhaol. Mae pobl sy’n gwybod mwy am ei gilydd a’u hardal leol yn tueddu i chwarae mwy o ran yn eu cymunedau lleol. Yn ogystal â hyn, maent yn meithrin dyfodol cynaliadwy lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol.

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, perthnasoedd plentyndod a defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cysylltiedig mewn Ewropeaid ifanc.

Mae’r astudiaeth hon yn cyfuno data o 10 astudiaeth ACE drawsdoriadol Ewropeaidd ymhlith oedolion ifanc mewn sefydliadau addysgol, i archwilio mynychder ACE, perthnasoedd plentyndod cefnogol a chanlyniadau iechyd (cychwyn alcohol yn gynnar, defnydd problemus o alcohol, ysmygu, defnyddio cyffuriau, therapi, ymgais i gyflawni hunanladdiad).

Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis+ 16 mwy
, Dinesh Sethi, Rachel Andrew, Yongjie Yon, Sara Wood, Kat Ford, Adriana Baban, Larisa Boderscova, Margarita Kachaeva, Katarzyna Makaruk, Marija Markovic, Robertas Povilaitis, Marija Raleva, Natasa Terzic, Milos Veleminsky, Joanna WÅ‚odarczyk, Victoria Zakhozha

Deall canlyniad hysbysiadau diogelu’r heddlu i’r gwasanaethau cymdeithasol yn Ne Cymru.

Cafodd hysbysiadau diogelu’r heddlu dros gyfnod o flwyddyn i awdurdod lleol yng Nghymru eu paru â chofnodion gofal cymdeithasol i ddeall lefelau y bobl agored i niwed a nodwyd gan yr heddlu a’u canlyniadau ar ôl eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol.

Awduron: Kat Ford, Annemarie Newbury+ 6 mwy
, Meredith Zoe, Jessica Evans, Karen Hughes, Janine Roderick, Alisha Davies, Mark Bellis

Ysgogi Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles

Mae’r canllaw hwn yn nodi deg cyfle polisi allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mae cyfleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn mynd i’r afael â meysydd o faich a chost uchel yng Nghymru, gan sicrhau enillion economaidd yn ogystal ag elw cymdeithasol ac amgylcheddol, a chefnogi twf economaidd cynhwysol cynaliadwy. Bydd y canllaw yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru.

Awduron: Mariana Dyakova, Mark Bellis+ 4 mwy
, Sumina Azam, Kathryn Ashton, Anna Stielke, Elodie Besnier

Gamblo fel mater iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Mae gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel blaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd twf cyflym yn argaeledd a hysbysebu gamblo, wedi ei ysgogi gan ffactorau yn cynnwys rheoliadau gamblo llac a datblygiad technolegol.

Awduron: Robert D. Rogers, Heather Wardle+ 6 mwy
, Catherine Sharp, Sara Wood, Karen Hughes, Timothy J. Davies, Simon Dymond, Mark Bellis

Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd

Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd (UE) (y cyfeirir ato’n anffurfiol fel “Brexit”) yn ddigwyddiad digynsail yn hanes y DU, ac mae tystiolaeth o effaith Brexit ar ystod eang o feysydd polisi naill ai’n anhysbys neu’n cael ei herio’n sylweddol. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) er mwyn deall goblygiadau posibl Brexit yn well ar gyfer iechyd a lles yng Nghymru yn y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Nerys Edmonds+ 5 mwy
, Laura Morgan, Rachel Andrew, Malcolm Ward, Sumina Azam, Mark Bellis

Gofyn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) mewn ymweliadau iechyd: Canfyddiadau astudiaeth beilot

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio canfyddiadau allweddol y gwerthusiad o gynllun peilot cychwynnol ymchwiliad ACE a gyflwynwyd gyda mamau yn ystod ymgysylltu cynnar â gwasanaethau ymwelwyr iechyd ledled Ynys Môn, Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y peilot rhwng mis Hydref 2017 a mis Gorffennaf 2018 ac ymgysylltodd â 321 o famau mewn trafodaeth gefnogol, gwybodus am ACE am drallod plentyndod a’i effaith ar iechyd, lles a rhianta.

Awduron: Katie Hardcastle, Mark Bellis

Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol

Mae’r adnodd hwn: Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol, yn ymwneud ag ysgolion, addysg ac atal trais. Mae’n rhoi canllawiau i swyddogion ysgolion ac awdurdodau addysg ar sut y gall ysgolion ymgorffori atal trais yn eu gweithgareddau arferol ac ar draws y mannau rhyngweithio y mae ysgolion yn eu darparu gyda phlant, rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned. Os caiff ei weithredu, bydd y llawlyfr yn cyfrannu llawer at helpu i gyflawni’r Grwpiau Datblygu Cynaliadwy a nodau iechyd a datblygu byd-eang eraill.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 1 mwy
, Mark Bellis

Ni yw’r Newid: Camau Cynaliadwy tuag at nodau llesiant Cymru

Mae Byddwch yn Newid yn fudiad/ymgyrch i annog a chefnogi staff i gymryd camau cynaliadwy yn y gweithle i gyfrannu’n unigol at nodau llesiant Cymru.
Yn dilyn lefel y diddordeb yn e-ganllawiau ‘Byddwch y Newid’ a gynhyrchwyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd yn hyn, mae’r Hyb wedi datblygu pecyn cymorth i helpu cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach i fabwysiadu ‘Byddwch y Newid’ yn eu mannau gwaith. Nod y pecyn cymorth yw darparu gwybodaeth, ond hefyd cefnogi staff i fod yn ‘gyfryngau newid’ trwy eu helpu i wneud newidiadau cynaliadwy bach ar lefel unigol, neu trwy weithio gyda’i gilydd fel timau.

A yw yfed alcohol ymysg oedolion yn cyfuno â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gynyddu ymwneud â thrais ymysg dynion a menywod? Astudiaeth drawsdoriadol yng Nghymru a Lloegr.

Astudiaeth i archwilio a yw hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cyfuno ag yfed alcohol ymysg oedolion i ragfynegi cyflawni trais ac erledigaeth yn ddiweddar, ac i ba raddau.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 5 mwy
, Kat Ford, Sara Edwards, Olivia Sharples, Katie Hardcastle, Sara Wood

A yw emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol yn wahanol yn ôl y math o alcohol? Arolwg traws-adrannol rhyngwladol o emosiynau sydd yn gysylltiedig ag yfed alcohol a dylanwad ar ddewis diod mewn gwahanol leoliadau

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag yfed gwahanol fathau o alcohol, p’un a yw’r emosiynau hyn yn wahanol i ddemograffeg gymdeithasol a dibyniaeth ar alcohol ac a yw’r emosiynau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddiodydd yn dylanwadu ar ddewis pobl o ddiodydd mewn gwahanol leoliadau.

Awduron: Kathryn Ashton, Mark Bellis+ 3 mwy
, Alisha Davies, Karen Hughes, Adam Winstock

Atal ac Ymateb i Ddigwyddiadau Torfol o Ddiweithdra (MUE) o Safbwynt Iechyd y Cyhoedd

Nod y cyhoeddiad hwn yw mynd i’r afael â’r bwlch a achosir gan leihau neu gau un cyflogwr mawr mewn ardal leol, ac mae’n darparu fframwaith ymateb gwybodus am iechyd y cyhoedd sy’n ystyried yr effaith ar benderfynyddion ehangach iechyd a’r poblogaethau sydd yn cael eu heffeithio.

Awduron: Alisha Davies, Lucia Homolova+ 2 mwy
, Charlotte Grey, Mark Bellis

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Bregusrwydd o ran Tai – Adroddiad a Gwerthusiad o Hyfforddiant sy’n wybodus am ACE ar gyfer Tai

Datblygwyd yr adnodd Hyfforddiant Tai sy’n wybodus am ACE gyda phartneriaid mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr Tai o wahanol ddeiliadaethau ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o ACE a chynyddu hyder yn ymateb i ACE a bregusrwydd yn y sector Tai. Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso’r hyfforddiant ac yn gwneud argymhellion ar gyfer hyfforddiant sy’n seiliedig ar ACE yn y dyfodol yn y sector tai.

Awduron: Charlotte Grey, Louise Woodfine