Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 78

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn Cymorth ar gyfer Ymarfer

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o’r Effaith ar iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i ddylunio i helpu i hyrwyddo’r cydweithio rhwng sectorau cynllunio ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adnodd yn ceisio sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy’n creu cymunedau iach, teg a chydlynus.

Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader cyn agor yr adnodd hwn er mwyn cael elwa ar ei swyddogaethau’n llawn.

Awduron: Liz Green, Lee Parry-Williams+ 1 mwy
, Edwin Huckle

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd i iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru

Yn yr adroddiad hwn rhoddir trosolwg strategol o effaith Brexit, y pandemig COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n
ddigwyddiadau arwyddocaol, a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae’n nodi’r penderfynyddion allweddol a’r grwpiau poblogaeth y mae’r Her Driphlyg yn effeithio arnynt ac yn darparu enghraifft allweddol ar gyfer pob penderfynydd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 7 mwy
, Michael Fletcher, Adam Jones, Laura Evans, Tracy Evans, Lee Parry-Williams, Sumina Azam, Mark Bellis

Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu er mwyn Llywio Ymateb ac Adferiad Iechyd Cyhoeddus COVID-19 Cymru – Calendr Cryno

Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, syntheseiddio a chyflwyno crynodeb clir a chryno o Adroddiadau Sganio’r Gorwel Rhyngwladol COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2020 hyd at Fawrth 2021. Mae’r llif gwaith Sganio’r Gorwel Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data
o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pandemig COVID-19.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 6 mwy
, Claire Beynon, Charlotte Bowles, Anna Stielke, James Allen, Abigail Malcolm (née Instone), Lauren Couzens (née Ellis)

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 76

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig athrais rhywiol (VAWDASV) yn broblem fawr o raniechyd cyhoeddus, cyfiawnder troseddol a hawliau dynol, gydag amrywiaeth o ddeilliannau andwyol iiechyd a lles trwy gydol oes. Yng Nghymru, un o amcanion allweddol y strategaeth VAWDASV genedlaethol yw gwneud ymyrryd ac atal yn gynnar yn flaenoriaeth, gan gydnabod bod atal yn hanfodol i dorri’r cylch trais mewn teuluoedd a chymunedau. Diben yr adolygiad hwn yw nodi arfer effeithiol ar gyfer atal VAWDASV a defnyddio’r dystiolaeth i lywio’r gwaith o adnewyddu’r strategaeth VAWDASV genedlaethol yng Nghymru yn 2021.

Awduron: Lara Snowdon, Samia Addis

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 74

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol i Lywio Ymateb ac Adferiad Iechyd y Cyhoedd i COVID-19 yng Nghymru – 10 Medi 2021

Cychwynnwyd ffrwd waith Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol fel cynnyrch, ac i hysbysu am, ymateb a chynlluniau adferiad esblygol iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn sgîl COVID-19. Mae’n canolbwyntio ar dystiolaeth ryngwladol, profiad, mesurau ac ymagweddau pontio / adferiad COVID-19, er mwyn deall ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau parhaus a rhai sydd yn dod i’r amlwg ar iechyd, llesiant, effeithiau cymdeithasol ac economaidd (niwed a buddion posibl).

Y pynciau ffocws yw:
– Ailagor lleoliadau addysgol
– COVID-19 a phobl ag anabledd

Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 1 mwy
, Claire Beynon

‘Iechyd ym Mhob Polisi’ – Sbardun Allweddol ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn Byd ar ôl y Pandemig COVID-19

Mae pandemig COVID-19 wedi codi proffil iechyd y cyhoedd ac wedi tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng iechyd a meysydd polisi eraill. Mae’r papur hwn yn disgrifio’r rhesymeg dros fecanweithiau Iechyd ym mhob Polisi (HiAP), a’r egwyddorion sy’n sail iddynt, gan gynnwys Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), profiadau, heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 3 mwy
, Mark Bellis, Timo Clemens, Margaret Douglas

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 72

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Adolygiad o Torri Tir Newydd

Mae’r adolygiad newydd amserol hwn dan arweiniad Hyb Cymorth ACE, yn rhoi diweddariad ar argymhellion yr adroddiad gwreiddiol ond mae hefyd yn myfyrio ar y cynnydd a wnaed yng ngoleuni profiad y pandemig COVID-19. Mae wedi canfod, er bod bylchau yn parhau, y gwnaed rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran deddfwriaeth polisi yng Nghymru a’r DU ehangach.

Awduron: Joanne C. Hopkins, Amira Assami

Canfyddiadau o ffilm fer wedi’i hanimeiddio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: gwerthusiad dulliau cymysg

Mae’r papur hwn yn gwerthuso ffilm animeiddiedig fer ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) i archwilio agweddau a theimlad gwylwyr tuag at y ffilm gan gynnwys, ar gyfer is-haen o weithwyr proffesiynol, cysylltiadau rhwng agweddau a phrofiad personol o ACEs.

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis+ 2 mwy
, Kate R Isherwood, Karen Hughes

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 70

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol i Lywio Ymateb ac Adferiad Iechyd y Cyhoedd i COVID-19 yng Nghymru – 12 Awst 2021

Cychwynnwyd ffrwd waith Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol fel cynnyrch, ac i hysbysu am, ymateb a chynlluniau adferiad esblygol iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn sgîl COVID-19. Mae’n canolbwyntio ar dystiolaeth ryngwladol, profiad, mesurau ac ymagweddau pontio / adferiad COVID-19, er mwyn deall ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau parhaus a rhai sydd yn dod i’r amlwg ar iechyd, llesiant, effeithiau cymdeithasol ac economaidd (niwed a buddion posibl).

Y pynciau ffocws yw:
Effaith COVID-19 ar grwpiau sy’n agored i niwed
Adferiad gwasanaeth iechyd meddwl o COVID-19

Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 1 mwy
, Claire Beynon

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 68

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ddeall goblygiadau penderfyniadau polisi ar gyfer iechyd a llesiant ehangach: ‘polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ Covid-19 yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ neu’r ‘Cyfnod Clo’ mewn ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru. Mae’n disgrifio’r broses a’r canfyddiadau, yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd ac yn trafod sut y defnyddiwyd y broses i ddeall yn well effeithiau iechyd a llesiant ehangach penderfyniadau polisi y tu hwnt i niwed uniongyrchol i iechyd. Mae hefyd yn archwilio rôl sefydliadau iechyd y cyhoedd wrth hyrwyddo a defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.

Awduron: Liz Green, Kathryn Ashton+ 4 mwy
, Sumina Azam, Mariana Dyakova, Timo Clemens, Mark Bellis

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 66

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 1 mwy
, Mark Bellis

Cyfleoedd Gwyrdd Haf 2021

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Mae rhifyn Haf 2021 yn canolbwyntio ar deithio cynaliadwy a llesol

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol i Lywio Ymateb ac Adferiad Iechyd y Cyhoedd i COVID-19 yng Nghymru – 22 Gorffennaf 2021

Cychwynnwyd ffrwd waith Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol fel cynnyrch, ac i hysbysu am, ymateb a chynlluniau adferiad esblygol iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn sgîl COVID-19. Mae’n canolbwyntio ar dystiolaeth ryngwladol, profiad, mesurau ac ymagweddau pontio / adferiad COVID-19, er mwyn deall ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau parhaus a rhai sydd yn dod i’r amlwg ar iechyd, llesiant, effeithiau cymdeithasol ac economaidd (niwed a buddion posibl).
Y pynciau ffocws yw:
Effaith COVID ar ddiogelwch cyflogaeth
Cydnabod COVID hir
Mewnwelediad i wlad: Japan

Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 1 mwy
, Claire Beynon

Ffeithlun Cymru a’r nodau byd-eang

Comisiynwyd y ffeithlun hwn, ‘Cymru a’r nodau byd-eang: Sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl’ gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu crynodeb cefndirol o ddulliau Cymru a’r byd ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys y camau i gyflawni’r agenda fyd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ffeithlun hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am elfennau o ddull Cymru, gan gwmpasu’r canlynol:

• Adolygiad llenyddiaeth o wreiddio Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Cymru (‘pum ffordd o weithio’)
• ‘Adroddiad Llesiant Cymru’ blynyddol ar gynnydd tuag at ddatblygiad cynaliadwy
• Dangosyddion cenedlaethol Cymru i fesur cynnydd
• Astudiaeth achos fer ar ddull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ Cymru ar gyfer polisi cyhoeddus

Awduron: Cathy Weatherup, Richard Lewis+ 1 mwy
, Tracy Evans

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws – Wythnos 64

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd+ 2 mwy
, Sara Wood, Mark Bellis

Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol i Lywio Ymateb ac Adferiad Iechyd y Cyhoedd i COVID-19 yng Nghymru – 1 Gorffennaf 2021

Cychwynnwyd ffrwd waith Dysgu a Sganio’r Gorwel Rhyngwladol fel cynnyrch, ac i hysbysu am, ymateb a chynlluniau adferiad esblygol iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn sgîl COVID-19. Mae’n canolbwyntio ar dystiolaeth ryngwladol, profiad, mesurau ac ymagweddau pontio / adferiad COVID-19, er mwyn deall ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau parhaus a rhai sydd yn dod i’r amlwg ar iechyd, llesiant, effeithiau cymdeithasol ac economaidd (niwed a buddion posibl).
Y pynciau ffocws yw:
– Effaith COVID-19 ar addysg ac arferion mewn ysgolion
– Effaith amgylcheddol COVID-19
– Mewnwelediad i wlad: De Affrica

Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.

Awduron: Mark Bellis, Mariana Dyakova+ 1 mwy
, Anna Stielke

Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy: Gweithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig – Pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau byd-eang

Datblygwyd y pecyn cymorth Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy fel rhan o’r ymateb gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gymryd camau clir a chadarnhaol i helpu sefydliadau a’u staff i ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDG y CU)
Gan ddarparu gwybodaeth, mae’r pecyn cymorth hefyd yn cefnogi staff, ar lefel unigol neu trwy gydweithio fel timau, i ‘weithredu newid’ trwy eu helpu i sefydlu egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Awduron: Sara Peacock, Tracy Evans+ 1 mwy
, Richard Lewis

Cymorth i oedolion yn ystod plentyndod: astudiaeth ôl-weithredol o berthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt ag oedolion, ffynonellau cymorth personol oedolion a’u cysylltiad ag adnoddau gwydnwch plentyndod

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd a llesiant ar hyd cwrs bywyd. Mae gwytnwch yn nodwedd unigol y gwyddys ei bod yn helpu i negyddu effaith adfyd ac o bosibl yn trawsnewid straen gwenwynig yn straen goddefadwy. Mae cael mynediad at oedolyn dibynadwy yn ystod plentyndod yn hanfodol i helpu plant i feithrin gwydnwch. Nod y papur hwn yw deall y berthynas rhwng cael mynediad bob amser at gymorth oedolion y gellir ymddiried ynddynt ac adnoddau gwydnwch plentyndod, ac archwilio pa ffynonellau cymorth personol oedolion a nifer y ffynonellau cymorth oedolion, sy’n meithrin gwydnwch plentyndod orau.

Awduron: Kathryn Ashton, Alisha Davies+ 4 mwy
, Karen Hughes, Kat Ford, Andrew Cotter-Roberts, Mark Bellis

Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?

Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn edrych ar y dulliau gwahanol o gynllunio a gweithredu polisi yn rhyngwladol. Mae’r adroddiad yn nodi opsiynau ar gyfer gwneuthurwyr polisi sy’n ystyried incwm sylfaenol, fel cynnal modelu economaidd, rhoi iechyd a llesiant fel nod craidd unrhyw gynllun, a chynnal astudiaethau dichonoldeb i ddeall sut y gellid cyflwyno incwm sylfaenol yng Nghymru.

Awduron: Adam Jones