Wedi’i ysgrifennu mewn cydweithrediad â’r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy’n nodi pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad.
Awduron: Alice Cline, Nicky Knowles+ 5 mwy
, Jonathan West, Lucia Homolova, Dr Charlotte Grey, Dr Esther Mugweni, Ashley Gould
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI).
Awduron: Kathryn Ashton, Aimee Challenger+ 4 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Christie Craddock, Jordan Williams, Liz Green
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Effaith Tlodi Ymhlith Babanod, Plant a Phobl Ifanc
Awduron: Leah Wargent, Lauren Couzens (née Ellis)+ 5 mwy
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau eraill, gall helpu i wella eich dealltwriaeth o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Rhagfyr2023 sy’n cwmpasu: Brechlynnau ffliw a COVID-19 Brechu a beichiogrwydd,Gwasanaeth 111 GIG Cymru, a Chlystyrau Gofal Sylfaenol.
Mae’r adroddiad yn grynodeb o’r hyn a ddysgwyd gan weminar aml-wlad, sydd â mewnwelediadau o Gymru, yr Eidal a Slofenia. Roedd y weminar yn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau a oedd yn archwilio sut mae cymhwyso’r fethodoleg dadansoddiad dadelfennu wedi rhoi mewnwelediadau i’r hyn sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd.
Un o brif ganfyddiadau’r weminar oedd bod angen cryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn llesiant a thegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt drwy bolisïau a chamau gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrysiadau a nodwyd drwy gydol y weminar.
Awduron: Lauren Couzens (née Ellis), Sara Cooklin-Urbano+ 2 mwy
Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant.
Mae’r papur briffio hwn yn dilyn ein papur briffio cryno ‘Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant’ ar ddyfodol cartrefi iach yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cartrefi fforddiadwy i iechyd a llesiant.
Drwy amlygu’r cysylltiadau rhwng pa mor fforddiadwy yw tai ac iechyd, a thrwy rannu enghreifftiau o’r hyn y mae ‘da’ yn ei olygu, rydym yn gobeithio y bydd y papur briffio hwn yn helpu rhanddeiliaid yn y system dai i wneud cynnydd tuag at ddyfodol lle mae tai fforddiadwy yn helpu i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pawb yng Nghymru.
Mae anafiadau a thrais yn broblem iechyd y cyhoedd fawr yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Trais yw un o brif achosion marwolaeth a chydag anafiadau, mae’n cyfrannu’n fawr at gostau gofal iechyd. Gall nodi baich a chostau anafiadau a thrais i’r system gofal iechyd fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer dangos ‘maint y broblem’ i lunwyr polisi ac o ran dylanwadu ar benderfyniadau. Nod y prosiect hwn oedd amcangyfrif costau anafiadau a thrais i’r systemau gofal iechyd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Yr amcanion oedd adolygu dulliau costio a ddefnyddir yn y llenyddiaeth bresennol, nodi data i alluogi amcangyfrifon cadarn o gostau anafiadau a thrais a datblygu fframwaith dadansoddol y gellir ei gymhwyso’n unffurf ar draws gwledydd Rhanbarth Ewropeaidd WHO.
Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Ymgorffori Ataliaeth mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.
Mae buddsoddi mewn iechyd y cyhoedd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol, nid yn unig ar iechyd corfforol ond hefyd ar gymunedau, economïau a’r amgylchedd. Mae galw cynyddol i roi cyfrif am effaith ehangach iechyd y cyhoedd a’r gwerth cymdeithasol y gellir ei greu. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r fframwaith adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (SROI). Nod yr astudiaeth hon yw archwilio’r defnydd o SROI a nodi meysydd i’w datblygu ar gyfer ei ddefnyddio ym maes iechyd y cyhoedd.
Awduron: Kathryn Ashton, Andrew Cotter-Roberts+ 3 mwy
Rôl arweinwyr iechyd cyhoeddus yn y pen draw yw gwella canlyniadau iechyd, yn arbennig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae’n rhaid i arweinwyr iechyd cyhoeddus weithio ar draws sawl ‘system’ gan fod yr hyn sy’n achosi pryderon iechyd cyhoeddus yn aml yn gymhleth ac yn amlweddog.
Nod yr adroddiad hwn, drwy adolygiad llenyddiaeth byr a chyfweliadau ag arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus, yw archwilio rôl arweinwyr iechyd cyhoeddus o ran ysgogi newid i sicrhau canlyniadau iechyd gwell a’r priodoleddau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus. Gobeithio y bydd canfyddiadau’r adroddiad yn ddefnyddiol i arweinwyr systemau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd hyn.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Hydref 2023 sy’n cwmpasu: Terfynau cyflymder 20mya, fepio, defnydd o wrthfiotigau, HIV, brechlynnau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a coronafeirws.
Nod yr adroddiad hwn yw cynorthwyo dealltwriaeth o sut y gall partneriaid aml-asiantaeth, gan gynnwys yr heddlu a chyfiawnder, iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, addysg, a’r trydydd sector, gydweithio i atal niwed sy’n croesi tirwedd iechyd y cyhoedd a chyfiawnder troseddol, megis trais, defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Mae’n darparu enghreifftiau o ffyrdd y gall partneriaid amlasiantaeth weithio i roi dulliau system gyfan ar waith i fynd i’r afael â niwed ac mae’n archwilio meysydd lle mae ymyrraeth gynnar a dulliau plismona ataliol wedi bod yn llwyddiannus neu’n debygol o fod yn llwyddiannus.
Awduron: Zara Quigg, Chloe Smith+ 5 mwy
, Karen Hughes, Charley Wilson, Nadia Butler, Lisa Jones, Mark Bellis
Mae’r adroddiad yn edrych ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar allyriadau gweithio gartref staff ac allyriadau gweithredol.
Mae’r adroddiad yn ymdrin â phedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Mae’r allyriadau ar gyfer pob maes wedi’u cyfrifo ar gyfer 2019/20 a 2020/21 i gymharu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd, gan nodi’r effaith ar ein hôl troed carbon ar gyfer pob maes allweddol, ynghyd â mewnwelediadau ac argymhellion allweddol.
Mae’r pum ffeithlun yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion allweddol y prosiect ymchwil a edrychodd ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar Ôl Troed Carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r ffeithluniau’n ymdrin â’r canfyddiadau cyffredinol a’r effaith ar allyriadau ar gyfer y pedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Maent yn cynnwys manylion am yr argymhellion cyffredinol ar gyfer ICC, ynghyd ag awgrymiadau ar sut y gall unigolion helpu i leihau eu hallyriadau carbon.
Mae’r term ‘technoference’, sef ymyrraeth dechnolegol yn cyfeirio at ymyriadau ac amhariadau cyson o fewn perthnasoedd rhyngbersonol neu ar yr amser y mae pobl yn treulio gyda’i gilydd oherwydd eu bod yn defnyddio dyfeisiau electronig. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod cysylltiadau rhwng rhieni sy’n treulio gormod o amser yn defnyddio technoleg ac iechyd meddwl ac ymddygiad treisgar pobl ifanc. Nod yr adolygiad cwmpasu hwn yw crynhoi’r llenyddiaeth bresennol. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y dylai rhieni fod yn ymwybodol o’r amgylchedd y maent yn defnyddio dyfeisiau electronig ynddo gan y gall ddylanwadu’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar iechyd meddwl ac ymddygiadau treisgar y glasoed. Gallai ymchwil pellach i gafeatau posibl ymyrraeth dechnolegol ar rieni gefnogi datblygu canllawiau fydd yn seiliedig ar dystiolaeth i rieni gael rheoli’r defnydd o ddyfeisiadau electronig yn well.
Gall hyn osod baich sylweddol ar gymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus. Nod yr adnodd newydd hwn yw cefnogi camau gweithredu ar ACEs drwy roi cyngor ymarferol ar atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.
Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Erthygl Sbotolau newydd, sy’n tynnu sylw at gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar ‘Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru’.
Mae tystiolaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn gwaethygu effeithiau tlodi plant ar ddatblygiad plant nawr, ac eu canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Amlygodd dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 11 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i leihau effaith tlodi plant a’r argyfwng costau byw ar annhegwch iechyd ymhlith plant yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y gall y dadansoddiad yma helpu i lywio datblygiad Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru a darparu fframwaith ar gyfer blaenoriaethu iechyd a llesiant plant yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng tra hefyd yn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru.
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i flaenoriaethu pa rwystrau a/neu hwyluswyr i’w targedu yn seiliedig ar fewnwelediad ymddygiadol, cyn archwilio pa swyddogaethau ymyrryd a allai fod yn fwyaf priodol i’w mabwysiadu.
Offeryn ymarferol, rhyngweithiol i’ch helpu i ystyried pa fathau o weithredu a allai fod yn fwyaf priodol ar gyfer cyflwyno’r ymyriad a ddewiswyd gennych.
Offeryn ymarferol, ar-lein i’ch tywys trwy’r ystyriaethau hanfodol i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau a allai fod ar waith yn eich mater iechyd gwell.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tymereddau dan do o <18°C yn cael eu cysylltu ag effeithiau iechyd negyddol. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi, asesu a diweddaru tystiolaeth ar y cysylltiad rhwng tymereddau oer (h.y. <18°C) mewn cartrefi a’r canlyniadau iechyd a llesiant. Mae bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol yn cael eu nodi, yn cynnwys ymchwil ar effeithiau tymereddau oer ar iechyd meddwl a llesiant, astudiaethau’n cynnwys plant ifanc ac effeithiau hir dymor tymerddau oer dan do ar iechyd.
Awduron: Hayley Janssen, Kat Ford+ 5 mwy
, Ben Gascoyne, Rebecca Hill, Manon Roberts, Mark Bellis, Sumina Azam
Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod yn fwy na’r cynnydd mewn cyflogau cyfartalog a thaliadau lles, gan arwain at ostyngiad mewn incwm gwario gwirioneddola. O ganlyniad, mae pwysau cynyddol ar gyllidebau cartrefi yn ei gwneud yn anoddach i bobl fforddio’r pethau sylfaenol a chyfeirir ato’n aml fel ‘argyfwng costau byw’. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a ddatblygwyd i ddeall sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd yng Nghymru; eu hymagweddau a’u penderfyniadau yn ymwneud â chostau byw cynyddol; a’u hymwybyddiaeth o gymorth a chynlluniau ariannol a mynediad iddynt.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r dystiolaeth lefel adolygiad sydd ar gael i arwain camau gweithredu ar leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn iechyd. Ceisiwyd tystiolaeth ar gyfer ymyriadau, rhaglenni a pholisïau iechyd y cyhoedd sy’n berthnasol i boblogaethau, grwpiau ac ardaloedd neu awdurdodaethau eraill a ddiffinnir yn ddaearyddol i archwilio a ydynt yn gwella canlyniadau iechyd pobl sy’n profi anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn ffafriol.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid yn yr hinsawdd, i gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth.
Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd.Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Awst 2023 sy’n cwmpasu:Adrannau Argyfwng, Ymgyrchoedd, Costau Byw, Iechyd Deintyddol, Sgrinio’r Coluddyn a Rheoli Pwysau Ôl-enedigol.
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.