Penderfynyddion Cymdeithasol ac Economaidd tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol llewyrchus i fenywod yng Nghymru

Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) wedi cyhoeddi blog erthygl sbotolau i goffau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar degwch rhwng y rhywiau yng Nghymru, gan bwysleisio’r penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar lesiant menywod. Mae’n amlygu anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau ar draws meysydd amrywiol, gan gynnwys iechyd, cyflogaeth, a thrais, sy’n cael eu gwaethygu gan ffactorau fel hil, anabledd a statws economaidd. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen polisïau sy’n ymateb i rywedd, cyllidebu sy’n gynhwysol o ran rhywedd a fframwaith Economi Llesiant i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol a grymuso menywod tuag at ddyfodol iachach a mwy llewyrchus yng Nghymru.

Awduron: Zuwaira Hashim, Jo Peden

Nodi a Chymhwyso Technegau Newid Ymddygiad

Offeryn ymarferol, rhyngweithiol sy’n cyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, a ystyrir yn ‘gynhwysion gweithredol’ ymyriadau newid ymddygiad. Mae’r offeryn yn eich tywys trwy sut i nodi a chyflwyno Technegau Newid Ymddygiad, gan ddefnyddio’r model COM-B a’r Olwyn Newid Ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Nicky Knowles+ 2 mwy
, Jonathan West, Ashley Gould

Gwerthuso Ymyraethau Newid Ymddygiad

Wedi’i ysgrifennu mewn cydweithrediad â’r Tîm Gwerthuso Canolog ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hwn yn offeryn ymarferol a rhyngweithiol sy’n nodi pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth i chi gynllunio sut i brofi a gwerthuso eich ymyriad newid ymddygiad.

Awduron: Alice Cline, Nicky Knowles+ 5 mwy
, Jonathan West, Lucia Homolova, Dr Charlotte Grey, Dr Esther Mugweni, Ashley Gould

Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth sy’n ceisio deall yr effeithiau ar iechyd a’r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad gwasanaeth hunan-samplu ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs) mewn carchar agored yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn cymhwyso dull arloesol drwy ddefnyddio lens a dull Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA), ar y cyd â’r fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI).

Awduron: Kathryn Ashton, Aimee Challenger+ 4 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Christie Craddock, Jordan Williams, Liz Green

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Effaith Tlodi ar Fabanod, Plant a Phobl Ifanc Adroddiad 48

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Effaith Tlodi Ymhlith Babanod, Plant a Phobl Ifanc

Awduron: Leah Silva, Lauren Couzens (née Ellis)+ 5 mwy
, Rachel Bennett, Zuwaira Hashim, Rhiannon Griffiths, Jo Peden, Mariana Dyakova

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cwestiynau Cyffredin

Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi creu’r ddogfen hon sy’n ceisio ateb eich cwestiynau am Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan gynnwys edrych ar y manteision, yr hyn y mae’n ei olygu a phryd y dylid cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, ynghyd â chwestiynau eraill. Ochr yn ochr â’n hadnoddau eraill, gall helpu i wella eich dealltwriaeth o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Rhagfyr 2023 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Rhagfyr2023 sy’n cwmpasu: Brechlynnau ffliw a COVID-19 Brechu a beichiogrwydd,Gwasanaeth 111 GIG Cymru, a Chlystyrau Gofal Sylfaenol.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 mwy
, Lewis Brace
Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau Aml-wlad

Dylanwadu ar y Bwlch Iechyd: Safbwyntiau Aml-wlad

Mae’r adroddiad yn grynodeb o’r hyn a ddysgwyd gan weminar aml-wlad, sydd â mewnwelediadau o Gymru, yr Eidal a Slofenia. Roedd y weminar yn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau a oedd yn archwilio sut mae cymhwyso’r fethodoleg dadansoddiad dadelfennu wedi rhoi mewnwelediadau i’r hyn sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd.

Un o brif ganfyddiadau’r weminar oedd bod angen cryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn llesiant a thegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt drwy bolisïau a chamau gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrysiadau a nodwyd drwy gydol y weminar.

Awduron: Lauren Couzens (née Ellis), Sara Cooklin-Urbano+ 2 mwy
, Mariana Dyakova, Jo Peden

Cartrefi fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant

Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant.

Mae’r papur briffio hwn yn dilyn ein papur briffio cryno ‘Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant’ ar ddyfodol cartrefi iach yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cartrefi fforddiadwy i iechyd a llesiant.

Drwy amlygu’r cysylltiadau rhwng pa mor fforddiadwy yw tai ac iechyd, a thrwy rannu enghreifftiau o’r hyn y mae ‘da’ yn ei olygu, rydym yn gobeithio y bydd y papur briffio hwn yn helpu rhanddeiliaid yn y system dai i wneud cynnydd tuag at ddyfodol lle mae tai fforddiadwy yn helpu i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pawb yng Nghymru.

Awduron: Manon Roberts, Louisa Petchey

Deall baich a chostau anafadau anfwriadol a thrais i systemau iechyd Ewropeaidd

Mae anafiadau a thrais yn broblem iechyd y cyhoedd fawr yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Trais yw un o brif achosion marwolaeth a chydag anafiadau, mae’n cyfrannu’n fawr at gostau gofal iechyd. Gall nodi baich a chostau anafiadau a thrais i’r system gofal iechyd fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer dangos ‘maint y broblem’ i lunwyr polisi ac o ran dylanwadu ar benderfyniadau. Nod y prosiect hwn oedd amcangyfrif costau anafiadau a thrais i’r systemau gofal iechyd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Yr amcanion oedd adolygu dulliau costio a ddefnyddir yn y llenyddiaeth bresennol, nodi data i alluogi amcangyfrifon cadarn o gostau anafiadau a thrais a datblygu fframwaith dadansoddol y gellir ei gymhwyso’n unffurf ar draws gwledydd Rhanbarth Ewropeaidd WHO.

Awduron: Lisa Jones, Zoe Bell+ 3 mwy
, Zara Quigg, Karen Hughes, Mark Bellis

Yr Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar Ymyraethau sy’n Cynnwys Gweithgarwch Corfforol a Maeth—adolygiad Cwmpasu.

Mae prinder adnoddau iechyd y cyhoedd a phwysau cynyddol ar systemau iechyd megis y pandemig Covid-19, yn ei gwneud yn hanfodol gwerthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd gan  ymwrthod o ddulliau gwerthuso traddodiadol.  Mae hyn yn bwysig er mwyn deall nid yn unig gwerth ariannol ymyriadau iechyd y cyhoedd, ond hefyd y gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach. Nod yr adolygiad hwn yw cyflwyno sylfaen dystiolaeth bresennol yr Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ar ymyraethau sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol a maeth, gan arddangos manteision cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yr ymyriadau hyn.

Awduron: Anna Stielke, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Andrew Cotter-Roberts, Mariana Dyakova

Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Ymgorffori Ataliaeth mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol Adroddiad 47

Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn 2022, ehangwyd cwmpas yr adroddiadau i gwmpasu pynciau iechyd y cyhoedd â blaenoriaeth, gan gynnwys ym meysydd gwella a hybu iechyd, diogelu iechyd, a gofal iechyd.
Mewn ffocws: Ymgorffori Ataliaeth mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Awduron: Leah Silva, Daniela Stewart+ 5 mwy
, Rachel Bennett, Zuwaira Hashim, Sara Cooklin-Urbano, Lauren Couzens (née Ellis), Mariana Dyakova

Effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd

Mae’r ffeithlun yn crynhoi’r canfyddiadau, gan edrych ar y Grwpiau Poblogaeth a Phenderfynyddion Iechyd yr effeithiwyd arnynt, ynghyd â’r ystadegau allweddol, y camau lliniaru a’r meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol. Mae’r Nodyn Esboniadol yn manylu ymhellach ar yr uchod, ac mae’n rhoi dadansoddiad o’r dystiolaeth a lywiodd ein canfyddiadau cadarnhaol a negyddol ar fenywod, cyflogaeth ac anghydraddoldebau iechyd. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddarllenwyr weld methodoleg yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a ddefnyddiwyd gan y tîm.

Awduron: Michael Fletcher, Laura Evans+ 3 mwy
, Lee Parry-Williams, Kathryn Ashton, Liz Green
Journal article first page: Advancing the Social Return on Investment Framework to Capture the Social Value of Public Health Interventions: Semistructured Interviews and a Review of Scoping Reviews

Hyrwyddo’r Fframwaith Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi i Ddal Gwerth Cymdeithasol Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd

Mae buddsoddi mewn iechyd y cyhoedd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol, nid yn unig ar iechyd corfforol ond hefyd ar gymunedau, economïau a’r amgylchedd. Mae galw cynyddol i roi cyfrif am effaith ehangach iechyd y cyhoedd a’r gwerth cymdeithasol y gellir ei greu. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio’r fframwaith adenillion cymdeithasol o fuddsoddi (SROI). Nod yr astudiaeth hon yw archwilio’r defnydd o SROI a nodi meysydd i’w datblygu ar gyfer ei ddefnyddio ym maes iechyd y cyhoedd.

Awduron: Kathryn Ashton, Andrew Cotter-Roberts+ 3 mwy
, Timo Clemens, Liz Green, Mariana Dyakova

Sgiliau ar gyfer arweinyddiaeth systemau ym maes iechyd cyhoeddus: Myfyrdodau ar ymarfer

Rôl arweinwyr iechyd cyhoeddus yn y pen draw yw gwella canlyniadau iechyd, yn arbennig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae’n rhaid i arweinwyr iechyd cyhoeddus weithio ar draws sawl ‘system’ gan fod yr hyn sy’n achosi pryderon iechyd cyhoeddus yn aml yn gymhleth ac yn amlweddog.
Nod yr adroddiad hwn, drwy adolygiad llenyddiaeth byr a chyfweliadau ag arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus, yw archwilio rôl arweinwyr iechyd cyhoeddus o ran ysgogi newid i sicrhau canlyniadau iechyd gwell a’r priodoleddau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus. Gobeithio y bydd canfyddiadau’r adroddiad yn ddefnyddiol i arweinwyr systemau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd hyn.

Awduron: Jo Peden, Dr James Rees+ 2 mwy
, Sophie Cole, Manon Roberts
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2023 Canfyddiadau Arolwg Panel. Cyhoeddwyd Rhagfyr 2023

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Hydref 2023 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cenedlaethol o drigolion Cymru sy’n 16+ oed a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Hydref 2023 sy’n cwmpasu: Terfynau cyflymder 20mya, fepio, defnydd o wrthfiotigau, HIV, brechlynnau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a coronafeirws.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes
Busnes Pawb Lleihau Troseddu drwy Ymyrraeth Gynnar Tachwedd 23

Busnes Pawb: Lleihau Troseddu drwy Ymyrraeth Gynnar

Nod yr adroddiad hwn yw cynorthwyo dealltwriaeth o sut y gall partneriaid aml-asiantaeth, gan gynnwys yr heddlu a chyfiawnder, iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, addysg, a’r trydydd sector, gydweithio i atal niwed sy’n croesi tirwedd iechyd y cyhoedd a chyfiawnder troseddol, megis trais, defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Mae’n darparu enghreifftiau o ffyrdd y gall partneriaid amlasiantaeth weithio i roi dulliau system gyfan ar waith i fynd i’r afael â niwed ac mae’n archwilio meysydd lle mae ymyrraeth gynnar a dulliau plismona ataliol wedi bod yn llwyddiannus neu’n debygol o fod yn llwyddiannus.

Awduron: Zara Quigg, Chloe Smith+ 5 mwy
, Karen Hughes, Charley Wilson, Nadia Butler, Lisa Jones, Mark Bellis

Ymchwil i effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r adroddiad yn edrych ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar allyriadau gweithio gartref staff ac allyriadau gweithredol.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â phedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Mae’r allyriadau ar gyfer pob maes wedi’u cyfrifo ar gyfer 2019/20 a 2020/21 i gymharu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd, gan nodi’r effaith ar ein hôl troed carbon ar gyfer pob maes allweddol, ynghyd â mewnwelediadau ac argymhellion allweddol.

Awduron: Tracy Evans

Deall effaith COVID-19 ar Allyriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r pum ffeithlun yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion allweddol y prosiect ymchwil a edrychodd ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar Ôl Troed Carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r ffeithluniau’n ymdrin â’r canfyddiadau cyffredinol a’r effaith ar allyriadau ar gyfer y pedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Maent yn cynnwys manylion am yr argymhellion cyffredinol ar gyfer ICC, ynghyd ag awgrymiadau ar sut y gall unigolion helpu i leihau eu hallyriadau carbon.

Awduron: Tracy Evans
Front cover of English journal: Parental Technoference

Ymyrraeth dechnolegol rhieni ac iechyd meddwl ac ymddygiad treisgar y glasoed: adolygiad cwmpasu

Mae’r term ‘technoference’, sef ymyrraeth dechnolegol yn cyfeirio at ymyriadau ac amhariadau cyson o fewn perthnasoedd rhyngbersonol neu ar yr amser y mae pobl yn treulio gyda’i gilydd oherwydd eu bod yn defnyddio dyfeisiau electronig. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu bod cysylltiadau rhwng rhieni sy’n treulio gormod o amser yn defnyddio technoleg ac iechyd meddwl ac ymddygiad treisgar pobl ifanc. Nod yr adolygiad cwmpasu hwn yw crynhoi’r llenyddiaeth bresennol. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y dylai rhieni fod yn ymwybodol o’r amgylchedd y maent yn defnyddio dyfeisiau electronig ynddo gan y gall ddylanwadu’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar iechyd meddwl ac ymddygiadau treisgar y glasoed. Gallai ymchwil pellach i gafeatau posibl ymyrraeth dechnolegol ar rieni gefnogi datblygu canllawiau fydd yn seiliedig ar dystiolaeth i rieni gael rheoli’r defnydd o ddyfeisiadau electronig yn well.

Awduron: Donna Dixon, Catherine Sharp+ 2 mwy
, Karen Hughes, J. Carl. Hughes

Llawlyfr ymarferol ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Cyflawni gwaith atal, meithrin gwytnwch a datblygu systemau sy’n ystyriol o drawma: Adnodd i weithwyr proffesiynol a sefydliadau

Gall hyn osod baich sylweddol ar gymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus. Nod yr adnodd newydd hwn yw cefnogi camau gweithredu ar ACEs drwy roi cyngor ymarferol ar atal ACEs, meithrin gwytnwch a datblygu sefydliadau, sectorau a systemau sy’n ystyriol o drawma. Mae’n cefnogi datblygu cymdeithas sy’n ystyriol o drawma ac sydd am ymrwymo i gymryd camau i atal ACEs a rhoi gwell cymorth i’r rhai sy’n dioddef yn eu sgil.

Awduron: Sara Wood, Hayley Janssen+ 3 mwy
, Karen Hughes, Jonathon Passmore, Mark Bellis
Welsh Health Equity Solutions Platform - acronym WHESP

Erthygl Sbotolau Newydd ar y Platfform Datrysiadau ar Wella Tegwch Iechyd Trwy roi’r Dechrau Gorau mewn Bywyd i Bob Plentyn

Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Erthygl Sbotolau newydd, sy’n tynnu sylw at gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar ‘Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru’.

Mae tystiolaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn gwaethygu effeithiau tlodi plant ar ddatblygiad plant nawr, ac eu canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Amlygodd dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 11 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i leihau effaith tlodi plant a’r argyfwng costau byw ar annhegwch iechyd ymhlith plant yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y gall y dadansoddiad yma helpu i lywio datblygiad Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru a darparu fframwaith ar gyfer blaenoriaethu iechyd a llesiant plant yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng tra hefyd yn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru.

PDF Strategaeth Iechyd Rhyngwladol

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Ein Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2023-2035

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Awduron: Liz Green, Emily Clark+ 5 mwy
, Laura Holt, Abigail Malcolm (née Instone), Golibe Ezenwugo, Daniela Stewart, Mariana Dyakova

Tymereddau oer dan do a’u cysylltiad ag iechyd a llesiant: adolygiad llenyddiaeth systematig

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tymereddau dan do o <18°C yn cael eu cysylltu ag effeithiau iechyd negyddol. Nod yr astudiaeth hon oedd nodi, asesu a diweddaru tystiolaeth ar y cysylltiad rhwng tymereddau oer (h.y. <18°C) mewn cartrefi a’r canlyniadau iechyd a llesiant. Mae bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth gyfredol yn cael eu nodi, yn cynnwys ymchwil ar effeithiau tymereddau oer ar iechyd meddwl a llesiant, astudiaethau’n cynnwys plant ifanc ac effeithiau hir dymor tymerddau oer dan do ar iechyd.

Awduron: Hayley Janssen, Kat Ford+ 5 mwy
, Ben Gascoyne, Rebecca Hill, Manon Roberts, Mark Bellis, Sumina Azam

Costau byw cynyddol ac iechyd a llesiant yng Nghymru: arolwg cenedlaethol

Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod yn fwy na’r cynnydd mewn cyflogau cyfartalog a thaliadau lles, gan arwain at ostyngiad mewn incwm gwario gwirioneddola. O ganlyniad, mae pwysau cynyddol ar gyllidebau cartrefi yn ei gwneud yn anoddach i bobl fforddio’r pethau sylfaenol a chyfeirir ato’n aml fel ‘argyfwng costau byw’. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a ddatblygwyd i ddeall sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd yng Nghymru; eu hymagweddau a’u penderfyniadau yn ymwneud â chostau byw cynyddol; a’u hymwybyddiaeth o gymorth a chynlluniau ariannol a mynediad iddynt.

Awduron: Rebecca Hill, Karen Hughes+ 3 mwy
, Katie Cresswell, Kat Ford, Mark Bellis