Mynd i’r afael a Phlastic Untro a Gwastraff yn Labordai Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr eitemau plastig untro a gwastraff sydd â’r mwyaf o allyriadau carbon a ddefnyddir yn Labordai Microbioleg ICC ac mae’n nodi argymhellion o ran newid i ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy.

Gellir ailadrodd y datrysiadau a nodwyd ar draws y sector gofal iechyd ehangach.

Awduron: Tracy Evans

Deall effaith COVID-19 ar Allyriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r pum ffeithlun yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion allweddol y prosiect ymchwil a edrychodd ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar Ôl Troed Carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r ffeithluniau’n ymdrin â’r canfyddiadau cyffredinol a’r effaith ar allyriadau ar gyfer y pedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Maent yn cynnwys manylion am yr argymhellion cyffredinol ar gyfer ICC, ynghyd ag awgrymiadau ar sut y gall unigolion helpu i leihau eu hallyriadau carbon.

Awduron: Tracy Evans

Ymchwil i effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r adroddiad yn edrych ar effaith pandemig COVID-19 a symud i fwy o weithio ystwyth ar ôl troed carbon Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar allyriadau gweithio gartref staff ac allyriadau gweithredol.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â phedwar maes allweddol, sef allyriadau caffael, teithio, busnes/safle a gweithio gartref. Mae’r allyriadau ar gyfer pob maes wedi’u cyfrifo ar gyfer 2019/20 a 2020/21 i gymharu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd, gan nodi’r effaith ar ein hôl troed carbon ar gyfer pob maes allweddol, ynghyd â mewnwelediadau ac argymhellion allweddol.

Awduron: Tracy Evans

Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru flaenoriaeth strategol newydd: mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus newid yn yr hinsawdd, i gydnabod mai’r argyfwng hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth.

Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Awduron: Tracy Evans, Eurgain Powell

Ni yw’r Newid – Caffael nad yw’n costio’r ddaear

Mae caffael yn gostus. Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario £7 biliwn ar gaffael. Caffael achosodd 62% o ôl troed carbon GIG Cymru yn 2018/19.
Gall caffael cynaliadwy olygu peidio â phrynu pethau o gwbl, prynu nwyddau sy’n defnyddio ynni ac adnoddau yn effeithlon, nwyddau moesegol fel coffi Masnach Deg, neu gynhyrchion a gwasanaethau lleol sy’n cefnogi busnesau lleol. Gall hefyd helpu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol ac amcanion llesiant, ac yn y pen draw wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Mae’r e-ganllaw yn rhoi cyngor ar sut y gallwn weithredu wrth brynu nwyddau a gwasanaethau gan ystyried yr hyn sydd ei angen arnom, o ble y daw, pa mor hir y bydd yn para a’r effaith a gaiff ar bobl, natur a’r blaned.

Awduron: Tracy Evans, Eurgain Powell

Adroddiad y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r dyletswydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus “gynnal a gwella bioamrywiaeth (cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir) a, thrwy wneud hynny, yn hybu cydnerthedd ecosystemau”.
Yn 2023 rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau wedi’i ddiweddaru, sy’n amlinellu’r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, gan amlygu’r cynnydd a wnaed rhwng 2019 a 2022 gan gynnwys yn erbyn camau a nodwyd yn ein Cynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Awduron: Eurgain Powell

Lleihau Allyriadau Carbon

Mae’r ffeithlun hon yn esbonio pam fod newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sylweddol i iechyd. Mae’n cynnwys ffeithiau am newid hinsawdd ac yn awgrymu camau y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau ein heffaith i helpu i ddiogelu iechyd pobl yn ogystal ag iechyd y blaned.

Awduron: Ann Jones

Cyfleoedd Gwyrdd Gwanwyn/ Haf 2022

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Awduron: Tracy Evans+ 1 mwy
, Eurgain Powell

Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy

Helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned a phobl ym mhopeth a wnânt.

Mae’r e-gatalog Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy yn rhoi crynodeb byr o’r holl adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd.

Bydd yr adnoddau a hyrwyddir yn yr e-gatalog yn helpu timau ac unigolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, ac yn annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a chartref fel ei gilydd.

Mae’r adnoddau yn gymysgedd o e-friffiau, adroddiadau a phecynnau cymorth, sy’n dwyn ynghyd ymchwil, syniadau, awgrymiadau a chamau gweithredu ymarferol. Mae rhai wedi’u hanelu at lefel unigol neu dîm, rhai ar lefel polisi sefydliadol, cenedlaethol neu ryngwladol, i gefnogi cynaliadwyedd, gwella iechyd a llesiant, helpu i wreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a lleihau ein heffaith ar y blaned.

Awduron: Tracy Evans

Iechyd Cyhoeddus Cymru Cynllun Gweithredu ar Ddatgarboneiddio 2022/24

Mae Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno’r camau gweithredu a strategaeth allweddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy’n cefnogi ein taith i fod yn Sero Net erbyn 2030.

Mae’r cynllun yn nodi’r camau gweithredu y gellir eu cyflawni mewn dwy flynedd o fis Ebrill 2022 hyd at fis Mawrth 2024, gan gefnogi a chyd-fynd â Chynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.

Awduron: Tracy Evans

Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau (SIFT): Gweithdy Amgylchedd Iach

Mae gweithdy Amgylchedd Iach SIFT yn rhoi cyfle i dimau nodi eu heffeithiau amgylcheddol a gwneud rhywbeth i’w lleihau.

Mae gweithdy Amgylchedd Iach SIFT yn seiliedig ar bedair thema strategol (datgarboneiddio, bioamrywiaeth, dim gwastraff a’r newid yn yr hinsawdd) i alluogi timau i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau effaith amgylcheddol a chyfrannu at unrhyw systemau rheoli amgylcheddol presennol yn eu sefydliad.

Awduron: Tracy Evans

Cyfleoedd Gwyrdd Hydref 2021

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Mae rhifyn yr hydref yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth.

Awduron: Tracy Evans, Richard Lewis

Cyfleoedd Gwyrdd Haf 2021

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.

Mae rhifyn Haf 2021 yn canolbwyntio ar deithio cynaliadwy a llesol

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Ffeithlun Cymru a’r nodau byd-eang

Comisiynwyd y ffeithlun hwn, ‘Cymru a’r nodau byd-eang: Sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl’ gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu crynodeb cefndirol o ddulliau Cymru a’r byd ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys y camau i gyflawni’r agenda fyd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ffeithlun hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am elfennau o ddull Cymru, gan gwmpasu’r canlynol:

• Adolygiad llenyddiaeth o wreiddio Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Cymru (‘pum ffordd o weithio’)
• ‘Adroddiad Llesiant Cymru’ blynyddol ar gynnydd tuag at ddatblygiad cynaliadwy
• Dangosyddion cenedlaethol Cymru i fesur cynnydd
• Astudiaeth achos fer ar ddull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ Cymru ar gyfer polisi cyhoeddus

Awduron: Cathy Weatherup, Richard Lewis+ 1 mwy
, Tracy Evans

Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy: Gweithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig – Pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau byd-eang

Datblygwyd y pecyn cymorth Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy fel rhan o’r ymateb gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gymryd camau clir a chadarnhaol i helpu sefydliadau a’u staff i ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDG y CU)
Gan ddarparu gwybodaeth, mae’r pecyn cymorth hefyd yn cefnogi staff, ar lefel unigol neu trwy gydweithio fel timau, i ‘weithredu newid’ trwy eu helpu i sefydlu egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Awduron: Sara Peacock, Tracy Evans+ 1 mwy
, Richard Lewis

Ni yw’r Newid – Gweithio Gartref a Gweithio Ystwyth Cynaliadwy

Rydym i gyd yn byw mewn byd cyfnewidiol ac ansicr, yn ystod argyfwng newid hinsawdd a phandemig byd-eang, sydd yn amlygu pwysigrwydd gweithredu a byw’n gynaliadwy i amddiffyn a diogelu ein byd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae Covid-19 wedi newid y ffordd y mae pobl yn byw a gweithio, gan annog gweithio gartref ar unwaith, lle bo hynny’n ymarferol a rhoi cyfleoedd i fyw’n fwy cynaliadwy.

I’r rheiny sydd yn gallu gweithio gartref, mae’r newid cyflym i weithio gartref a gweithio ystwyth wedi cyflwyno elfennau cadarnhaol a negyddol, rhai yn fwy heriol nag eraill. Bydd yr e-ganllaw hwn yn helpu unigolion i gymryd camau cynaliadwy tra’n gweithio gartref i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Awduron: Tracey Evans, Richard Lewis

Her Nodau Llesiant Byddwch y Newid

Mae’r Her Nodau Llesiant yn nodi chwe newid ymddygiad gwahanol sydd yn ein hysbrydoli i weithredu i fyw’n fwy cynaliadwy. Maent wedi eu dylunio i gael eu gwneud ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch tîm neu fel her rhwng timau.
Gan ddefnyddio Nodau Llesiant Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd unedig, mae’r heriau yn canolbwyntio ar Ffasiwn Araf, Deiet Planhigion, Tuag at Ddim Gwastraff, Teithio Iach, Defnyddiwr Moesegol a Chefnogi Bywyd Gwyllt, gyda chamau cynaliadwy yn cael eu darparu i’ch tywys ar daith eich her.

Awduron: Richard Lewis, Angie Kirby+ 1 mwy
, Tracey Evans

Cyfleoedd Gwyrdd Gwanwyn 2021

Mae Cyfleoedd Gwyrdd yn e-gyfarwyddyd newydd gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd. Mae’r diweddariadau chwarterol yn cyfleu’r hyn a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad gwyrdd Cymru yn sgîl COVID-19, gan nodi cyfleoedd cynaliadwy i gynorthwyo iechyd y boblogaeth.
Mae rhifyn gwanwyn 2021 yn canolbwyntio ar lygredd aer.

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Ni yw’r Newid – Helpu Natur i Ffynnu

Mae Natur yn dirywio yn fyd-eang ar gyfraddau digynsail yn hanes bodau dynol ac mae cyfraddau difodiant rhywogaethau yn cynyddu, gydag effeithiau difrifol bellach yn debygol i bobl ar draws y byd. Mae ein hiechyd a’n llesiant yn dibynnu ar amgylchedd iach, sydd yn cynnwys defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy a chefnogi bioamrywiaeth.
Bydd yr e-ganllaw hwn yn helpu unigolion i weithredu dros fioamrywiaeth ar bob cyfle er mwyn gwrthdroi ei ddirywiad yng Nghymru ac yn fyd-eang, am ei werth hanfodol, ac i sicrhau ein llesiant ein hunain.

Gwneud Lle i Fyd Natur – Cynllun Bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwneud Lle i Fyd Natur yw Cynllun Bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau.
Mae ecosystemau iach yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, yn darparu ein bwyd, dillad a’n meddyginiaethau, yn rheoleiddio aer a dŵr ac yn rheoli clefydau. Fodd bynnag, mae bioamrywiaeth yn dirywio.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi’r gofynion ar gyfer ‘rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ ynghyd â ffyrdd newydd o weithio i gyflawni hyn. Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n ofynnol ar gyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau er mwyn gwrthdroi’r duedd hon, fel rhan o Ddyletswydd S6.

SIFT – Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau

Yn Saesneg, ystyr SIFT yw ‘Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau’ ac mae gweithdy SIFT yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gwneud y canlynol:
• gwneud cyrff cyhoeddus yn atebol am ymgorffori’r pum ffordd o weithio yn briodol yn eu
holl waith;
• ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut maent wedi gwneud hyn. Mae gweithdai SIFT yn creu sail dystiolaeth a gall y dystiolaeth hon gael ei hymgorffori yn amcanion y sefydliad er mwyn cefnogi gwell dysgu, cynllunio, cydweithio, a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Awduron: Richard Lewis

Gweithredu’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: Gwersi o Adolygiad Llenyddiaeth ar Weithredu’r Pum Ffordd o Weithio

Mae’r adnodd hwn yn darparu dysgu a chamau gweithredu allweddol y gall cyrff cyhoeddus, llunwyr polisi ac ymarferwyr eu cymryd i weithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Awduron: Victoria Hands, Radu Cinpoes+ 8 mwy
, Fatima Annan-Diab, Annette Boaz, Carol Hayden, Richard Anderson, Alisha Davies, Sumina Azam, Cathy Weatherup, William King

Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019

Cynhyrchwyd ‘Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth’ Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i ddyletswydd uwch bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sydd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth cyhyd â bo hynny’n cyd-fynd ag ymarfer eu swyddogaethau yn gywir a, thrwy wneud hynny, yn hybu cadernid ecosystemau.

Mae Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019 yn amlinellu sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynd i’r afael â’i ddyletswydd bioamrywiaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac wedi cyflawni’r gweithredoedd a nodwyd yn ei Gynllun Bioamrywiaeth, Gwneud Lle i Natur.

Awduron: Richard Lewis

Ni yw’r Newid – Treftadaeth Iach

Mae ‘Treftadaeth Iach’ yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd ymarferol y gallwn gyfrannu at Nodau Llesiant Cymru trwy gefnogi ein diwylliant a’r iaith Gymraeg yn y gweithle.

Trwy warchod a dysgu o’n hanes a’n diwylliant gallwn ail-fywiogi, diogelu a rhannu ein treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein treftadaeth yn offeryn allweddol i gefnogi newid cadarnhaol. Mae pobl sy’n gwybod mwy am ei gilydd a’u hardal leol yn tueddu i chwarae mwy o ran yn eu cymunedau lleol. Yn ogystal â hyn, maent yn meithrin dyfodol cynaliadwy lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol.

Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans

Ni yw’r Newid: Camau Cynaliadwy tuag at nodau llesiant Cymru

Mae Byddwch yn Newid yn fudiad/ymgyrch i annog a chefnogi staff i gymryd camau cynaliadwy yn y gweithle i gyfrannu’n unigol at nodau llesiant Cymru.
Yn dilyn lefel y diddordeb yn e-ganllawiau ‘Byddwch y Newid’ a gynhyrchwyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd yn hyn, mae’r Hyb wedi datblygu pecyn cymorth i helpu cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach i fabwysiadu ‘Byddwch y Newid’ yn eu mannau gwaith. Nod y pecyn cymorth yw darparu gwybodaeth, ond hefyd cefnogi staff i fod yn ‘gyfryngau newid’ trwy eu helpu i wneud newidiadau cynaliadwy bach ar lefel unigol, neu trwy weithio gyda’i gilydd fel timau.