Datblygwyd y strategaeth hon gan Uned Atal Trais Cymru. Fe’i dyluniwyd fel fframwaith ar gyfer atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc yn Ne Cymru. Y brif gynulleidfa yw llunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag atal trais difrifol ymhlith pobl ifanc, ac ymateb iddo. Ei nod yw grymuso unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais, gyda chefnogaeth ac arweiniad yr Uned Atal Trais.
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut mae coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data sydd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data’n cael ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.
Nod yr adroddiad hwn yw dwyn ynghyd yr hyn a wyddom am ACE mewn plant sydd yn ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches sydd yn cyrraedd ac yn ymgartrefu mewn gwledydd lletyol, gan amlygu eu natur, eu graddfa a’u heffaith.
Awduron: Sara Wood, Kat Ford+ 4 mwy
, Katie Hardcastle, Jo Hopkins, Karen Hughes, Mark Bellis
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut mae coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data sydd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data’n cael ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.
Nod rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd Cymru gyfan (E.A.T.) oedd datblygu ymateb systemau cyfan i bobl sy’n agored i niwed er mwyn galluogi’r heddlu a phartneriaid amlasiantaeth (MA) i adnabod arwyddion o fod yn agored i niwed ar y cyfle cyntaf ac i gydweithio i ddarparu mynediad i gefnogaeth y tu hwnt i wasanaethau statudol. Yn allweddol i gyflawni hyn oedd datblygu a darparu’r rhaglen hyfforddiant wedi’i lywio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thrawma Amlasiantaeth Camau Cynnar gyda’n Gilydd (ACE TIME). Gwerthusodd yr adroddiad cyfredol gam un y broses o gyflwyno’r hyfforddiant ACE TIME (rhwng mis Medi 2018 a mis Ionawr 2019).
Awduron: Freya Glendinning, Emma Barton+ 7 mwy
, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Michelle McManus, Sophie Harker, Mark Bellis
Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad o epidemioleg trais difrifol gan bobl ifanc yn ardal heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynnwys y tueddiadau sydd wedi eu sefydlu a rhai sy’n datblygu mewn trais, y cohortau sydd fwyaf agored i gymryd rhan mewn trais, y ffactorau risg ac amddiffynnol ar gyfer trais ac effaith trais ar systemau gofal iechyd.
Mae asesu effaith gadarnhaol a negyddol polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau ar iechyd a llesiant yn bwysig iawn i iechyd y cyhoedd. Mae Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) ac Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) yn fethodolegau wedi eu sefydlu sydd yn asesu’r effeithiau posibl ar iechyd a llesiant, yn cynnwys ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn dangos synergeddau, a gorgyffwrdd o ran eu hymagwedd. Yn y papur hwn, rydym yn archwilio sut gallai HIA ac SROI ategu ei gilydd i gyfleu a rhoi cyfrif am effaith a gwerth cymdeithasol ymyrraeth neu bolisi sydd wedi ei asesu.
Awduron: Kathryn Ashton, Lee Parry-Williams+ 2 mwy
Gall pecyn cymorth Gorwelion helpu cyrff cyhoeddus a phobl yn gyffredinol i feddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hwy yn hytrach na bod mewn rhigol yn y presennol fel eu bod yn colli’r cyfleoedd, ddim yn gweld risg neu’n gwneud penderfyniadau nad ydynt yn sefyll dros amser.
Yn y blynyddoedd sydd wedi dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2016, anaml y mae Brexit wedi bod allan o’r newyddion. Er gwaethaf cryn weithgarwch, roedd ansicrwydd o hyd ynghylch Brexit ar adeg y gwaith ymchwil hwn; nid yn unig o ran ei logisteg, os, pryd a sut byddai’r DU yn gadael yr UE ond hefyd beth allai goblygiadau Brexit fod i’r DU ac i Gymru – neu hyd yn oed pa effaith y gallai’r blynyddoedd diwethaf fod wedi ei gael yn barod.
Mae nifer gynyddol o astudiaethau yn nodi cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ac afiechyd trwy gydol cwrs bywyd. Ein nod oedd cyfrifo cyfran y ffactorau risg mawr ar gyfer iechyd gwael ac achosion y gellir eu priodoli i un neu sawl math o ACE a’r costau ariannol cysylltiedig.
Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 mwy
, Kat Ford, Gabriela Ramos Rodriguez, Dineshi Sethi, Jonathon Passmore
Mae’r adroddiad hwn ar y cyd gan Ymddiriedolaeth BRE, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar y cysylltiadau rhwng amodau tai gwael, yn yr achos hwn ‘peryglon yn y cartref’ a’u heffaith ar iechyd a lles a’r gost i’r GIG a chymdeithas ehangach. Mae’n ategu canfyddiadau adroddiad Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Yr Achos dros Fuddsoddi* a gyhoeddwyd yn flaenorol, ac mae hefyd yn adeiladu ar gyhoeddiadau blaenorol gan Ymddiriedolaeth BRE a Shelter.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r mewnwelediadau hyn yn ein helpu i ddeall yn well i ba raddau y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a sut mae patrymau defnydd yn amrywio ar draws grwpiau poblogaeth. Mae’r canfyddiadau’n herio rhai rhagdybiaethau (er enghraifft, mai dim ond grwpiau oedran iau sy’n ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol), ac yn nodi cyfleoedd sy’n haeddu ystyriaeth bellach
Mae Natur yn dirywio yn fyd-eang ar gyfraddau digynsail yn hanes bodau dynol ac mae cyfraddau difodiant rhywogaethau yn cynyddu, gydag effeithiau difrifol bellach yn debygol i bobl ar draws y byd. Mae ein hiechyd a’n llesiant yn dibynnu ar amgylchedd iach, sydd yn cynnwys defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy a chefnogi bioamrywiaeth.
Bydd yr e-ganllaw hwn yn helpu unigolion i weithredu dros fioamrywiaeth ar bob cyfle er mwyn gwrthdroi ei ddirywiad yng Nghymru ac yn fyd-eang, am ei werth hanfodol, ac i sicrhau ein llesiant ein hunain.
Gwneud Lle i Fyd Natur yw Cynllun Bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau.
Mae ecosystemau iach yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, yn darparu ein bwyd, dillad a’n meddyginiaethau, yn rheoleiddio aer a dŵr ac yn rheoli clefydau. Fodd bynnag, mae bioamrywiaeth yn dirywio.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi’r gofynion ar gyfer ‘rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ ynghyd â ffyrdd newydd o weithio i gyflawni hyn. Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n ofynnol ar gyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau er mwyn gwrthdroi’r duedd hon, fel rhan o Ddyletswydd S6.
Nod yr adroddiad hwn yw disgrifio effaith tywydd y gaeaf a thywydd oer ar iechyd a lles yng Nghymru a’r effeithiau dilynol ar wasanaethau iechyd a gofal, mewn ffordd a all lywio cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol.
Awduron: Sumina Azam, Thomas Jones+ 4 mwy
, Sara Wood, Emily Bebbington, Louise Woodfine, Mark Bellis
Mae’r adroddiad technegol hwn yn cydnabod effeithiau ffactorau tymhorol traddodiadol sy’n achosi iechyd gwael fel y ffliw ac anafiadau oherwydd cwympiadau, yn ogystal â dod o hyd i faterion ehangach fel tlodi, tai gwael ac ymddygiadau afiach sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y gaeaf.
Awduron: Sumina Azam, Thomas Jones+ 4 mwy
, Sara Wood, Emily Bebbington, Louise Woodfine, Mark Bellis
Mae ymdrechion i atal trais yn lleol wedi defnyddio data adrannau achosion brys yn bennaf (ED) i lywio gweithrediadau’r heddlu. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos effeithiolrwydd rhannu data iechyd o ran atal trais. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth hon ac yn defnyddio data gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans ac adrannau brys tri bwrdd iechyd i ddarparu cynrychiolaeth gyfannol o drais ar lefel leol fel y gellir nodi ffactorau sy’n cyfrannu a’u defnyddio i lywio camau ataliol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sefydlu system wyliadwriaeth arferol leol i lywio atal trais.
Yn Saesneg, ystyr SIFT yw ‘Gwelliannau Cynaliadwyedd i Dimau’ ac mae gweithdy SIFT yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gwneud y canlynol:
• gwneud cyrff cyhoeddus yn atebol am ymgorffori’r pum ffordd o weithio yn briodol yn eu
holl waith;
• ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut maent wedi gwneud hyn. Mae gweithdai SIFT yn creu sail dystiolaeth a gall y dystiolaeth hon gael ei hymgorffori yn amcanion y sefydliad er mwyn cefnogi gwell dysgu, cynllunio, cydweithio, a chyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae hwn yn adroddiad ategol byr ac mae’n adeiladu ar ddadansoddiad manwl o Oblygiadau Brexit yng Nghymru i Iechyd y Cyhoedd: Ymagwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sy’n archwilio effeithiau posibl Brexit ar iechyd a lles tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy’n byw yng Nghymru.
Awduron: Louisa Petchey, Liz Green+ 5 mwy
, Nerys Edmonds, Mischa Van Eimeren, Laura Morgan, Sumina Azam, Mark Bellis
Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol, gael effaith andwyol ar iechyd plant ac oedolion. Fodd bynnag, ychydig o ymchwil sydd wedi archwilio’r effaith y mae profiadau bywyd cynnar o’r fath yn ei chael ar iechyd y geg. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried a yw profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod cyn 18 oed yn gysylltiedig ag iechyd deintyddol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi yn nes ymlaen mewn bywyd.
Mae’r adnodd hwn yn darparu dysgu a chamau gweithredu allweddol y gall cyrff cyhoeddus, llunwyr polisi ac ymarferwyr eu cymryd i weithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Awduron: Victoria Hands, Radu Cinpoes+ 8 mwy
, Fatima Annan-Diab, Annette Boaz, Carol Hayden, Richard Anderson, Alisha Davies, Sumina Azam, Cathy Weatherup, William King
Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi ceisio deall y dirwedd o ran plismona bregusrwydd ledled Cymru, a fydd yn ei dro yn cefnogi ymagwedd rhaglen E.A.T. Mae’n amlinellu realiti ymateb i unigolion sy’n agored i niwed ar gyfer swyddogion rheng flaen, y galluogwyr a’r rhwystrau wrth ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn archwilio cyflwyno’r hyfforddiant aml-asiantaeth Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd sydd yn wybodus am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (hyfforddiant ACE TIME). Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r cyd-destun unigol, sefyllfaol a sefydliadol i weld canfyddiadau ar ôl hyfforddiant ACE TIME a darparu argymhellion allweddol wrth baratoi i gyflwyno rhaglen genedlaethol trawsnewid a newid diwylliant o fewn plismona.
Awduron: Emma Barton, Michelle McManus+ 7 mwy
, Georgia Johnson, Gabriela Ramos Rodriguez, Annemarie Newbury, Hayley Janssen, Felicity Morris, Bethan Morris, Jo Roberts
Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg lefel uchel o’r siwrnai a’r trawsnewidiad o brosiect lleol PIF Heddlu De Cymru i Raglen Genedlaethol o newid Trawsnewidiol. Mae’n manylu ar fframwaith allweddol rhaglen E.A.T, ei nodau a’i hamcanion, rolau allweddol, y mecanweithiau cyflawni o fewn mesurau hyfforddiant a gwerthuso ACE TIME a ddefnyddir. Cyflwynir canfyddiadau astudiaeth beilot fach, sy’n ystyried cywirdeb y pecyn hyfforddi a’r taclau gwerthuso a ddatblygwyd i fesur effaith yr hyfforddiant cyn ei gyflwyno’n genedlaethol.
Cyhoeddwyd yr erthygl gan y Journal of COMMUNITY SAFETY AND WELL-BEING, ac mae’n darparu naratif o gyflwyno’r hyfforddiant ACE TIME i swyddogion a phartneriaid yr heddlu, fel rhan o drawsnewidiad yr heddlu ledled Cymru. Mae hyn yn amlygu bod swyddogion, yn dilyn hyfforddiant, yn nodi ac yn cymhwyso dealltwriaeth sylfaenol o droseddu a niwed ac yn datblygu dealltwriaeth y cyhoedd o asedau ymyrraeth gynnar presennol a llwybrau cymorth yn eu hardal leol. Mae’r erthygl hefyd yn darparu ystyriaethau ar gyfer cynllunio yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod dulliau gweithredu’n parhau i gael eu hymgorffori.
Awduron: Jo Ramessur-Williams, Annemarie Newbury+ 2 mwy
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bryderon cyfoes ynghylch iechyd y boblogaeth sy’n ymwneud â deiet lle mae trethiant wedi cael ei ystyried neu ei weithredu mewn mannau eraill, a/neu’n arloesi’n hyfyw yng nghyd-destun Cymru. Mae meysydd pwnc lle mae trethiant a dulliau polisi cyllidol eraill eisoes ar waith gan Lywodraeth y DU (er enghraifft, ar alcohol a thybaco) a threthiant sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, heb gael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi camau gweithredu trwy ddwyn tystiolaeth a dealltwriaeth ynghyd o gadernid ar lefel unigol a chymunedol a’r rhyng-ddibyniaeth rhyngddynt, sut i fesur newid mewn cadernid (Adran 4), ac mae’n rhoi trosolwg o raglenni sydd yn ceisio cryfhau cadernid ar lefel unigol a chymunedol.
Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged. Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) prif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.
Er mwyn darparu'r profiadau gorau, rydym yn defnyddio technolegau fel cwcis i storio a/neu gael mynediad at wybodaeth. Bydd cydsynio i'r technolegau hyn yn ein galluogi i brosesu data megis ymddygiad pori neu IDau unigryw ar y wefan hon. Gall peidio â rhoi caniatâd neu dynnu caniatâd yn ôl gael effaith andwyol ar rai nodweddion a swyddogaethau.
Functional
Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.