
Yn gal war bawb sy’n yfed te a choffi!
Gall pob un ohonom weithredu drwy ddefnyddio myg neu gwpan coffi mae modd ei ddefnyddio eto.
Gall pob un ohonom weithredu drwy ddefnyddio myg neu gwpan coffi mae modd ei ddefnyddio eto.
Gan edrych tuag at 2030, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi saith blaenoriaeth allweddol ar gyfer iechyd y boblogaeth. Nodwyd y blaenoriaethau hyn drwy wrando ar farn pobl yng Nghymru a’n staff; ac ystyried polisïau allweddol yng Nghymru megis Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ymchwil genedlaethol a rhyngwladol. Mae ymchwil yn rhan hanfodol o’r hyn a wnawn fel sefydliad, gan ein galluogi i ddeall y dulliau mwyaf effeithiol o wella iechyd a lles y rhai sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt.
Cynhaliwyd Arolwg o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a Chadernid Cymru i archwilio ffactorau unigol a chymunedol a allai gynnig amddiffyniad rhag effeithiau niweidiol ACE ar iechyd, lles a ffyniant ar draws cwrs bywyd.
Mae Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig (2015), a ategir gan fframwaith a strategaeth polisi Ewropeaidd WHO ar gyfer yr 21ain ganrif, Health 2020, yn garreg filltir ar gyfer datblygiad dynol a phlanedol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnig ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i weithredu’r agendâu hyn ar y lefelau cenedlaethol a rhanbarthol ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO.
Mae economi’r nos yng Nghymru yn ymwneud â’r gweithgarwch economaidd sy’n digwydd rhwng 6pm a 6am. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau yn amrywio o fwytai a sefydliadau sy’n gweini bwyd, gwerthu alcohol, lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau gyda dawnsio ac adloniant, sinemâu a gweithgareddau hamdden eraill.
Mae’r astudiaeth achos hwn yn amlinellu dull darpar Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) i ail-ddatblygu fframwaith adweithiol presennol ar gyfer rheoli economi’r nos yng Nghymru. Drwy gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid yn y broses, llwyddwyd i ail-lunio amcanion rhagweithiol realistig sy’n cynnwys iechyd a llesiant ill dau. Mae’r erthygl hon yn amlygu manteision HIA, a gellir ei defnyddio i lywio datblygiadau polisi yn y dyfodol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am blismona yn y DU wedi cynyddu ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud â lles cymhleth, diogelwch y cyhoedd a bregusrwydd. Nododd ymchwil ar yr ymateb i fregusrwydd gan Heddlu De Cymru (SWP) fod angen hyfforddi staff i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a thrawma i sicrhau bod ganddynt y sgiliau cywir i gynorthwyo unigolion sy’n agored i niwed ar adegau o argyfwng ac angen. Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn, datblygwyd Hyfforddiant Ymagwedd sy’n Wybodus am ACE o Blismona Bregusrwydd (AIAPVT). Mae’r adroddiad hwn yn cyfleu gwerthusiad annibynnol o’r hyfforddiant.
Ymchwilio i weld a all rhannu a chysylltu data trais a gesglir fel mater o drefn ar draws systemau iechyd a chyfiawnder troseddol ddarparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o drais, sefydlu patrymau o dan-adrodd a llywio’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso mentrau atal trais yn well.
Datblygwyd y Llyfr Astudiaeth Achos hwn, Datblygu’r Nodau Datblygu Cynaliadwytdrwy Iechyd ym mhob Polisi: Astudiaethau achos o bob cwr o’r byd fel canlyniad Cynhadledd Ryngwladol Iechyd ym Mhob Polisi Adelaide 2017 a noddwyd ar y cyd gan Lywodraeth De Awstralia a Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae heriau iechyd y cyhoedd, anghydraddoldeb, economaidd ac amgylcheddol cynyddol ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO sy’n gofyn am fuddsoddiad brys er mwyn cyflawni datblygu cynaliadwy (diwallu anghenion presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion) a sicrhau iechyd a lles ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r adolygiad systematig a’r metaddadansoddiad hwn yn ceisio cyfosod canfyddiadau o astudiaethau yn mesur effaith mathau lluosog o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ar ganlyniadau iechyd trwy gydol bywyd.
Mae’r Fframwaith Adolygu Sicrhau Ansawdd hwn yn offeryn arfarnu hanfodol ar gyfer HIA. Ei nod yw sicrhau bod ymarfer HIA yng Nghymru yn parhau i adlewyrchu’r gwerthoedd, y safonau a’r dulliau gweithredu pwysig sydd wedi bod yn sail i ddatblygu ymarfer HIA yn y wlad hyd yma.
Mae’r adroddiad cryno hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol ymchwil helaeth a wnaed gyda Heddlu De Cymru i ddeall y galw o ran bregusrwydd. Mae’r adroddiad hwn yn cryfhau’r achos dros y ffordd y gall plismona fod yn fwy effeithiol o ran atal problemau cyn iddynt waethygu trwy ymagwedd gynaliadwy a hirdymor.
Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflawni ein rôl genedlaethol, ein blaenoriaethau strategol a’n hamcanion lles yn llwyddiannus. Mae proses ymgynghori eang, wedi ei hategu gan adolygiad llenyddiaeth a mapio gwaith rhyngwladol a chydweithio ar draws y sefydliad, wedi ein galluogi i nodi tair blaenoriaeth strategol a chwe amcan strategol ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Pecyn Cymorth Polisi ar gyfer Atal Trais Rhyngbersonol, Ar y Cyd ac Eithafol
Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r dystiolaeth gyfredol [Mawrth 2017] sy’n ymwneud â darparu Proffylacsis Cyn Cyswllt (PrEP) ar gyfer atal HIV, gan gynnwys adolygiad helaeth o’r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer agweddau penodol ar y pwnc, dadansoddi treialon clinigol, y polisi, cyd-destun rheoliadol a deddfwriaethol, a safbwyntiau byd-eang. Roedd y ddogfen hon yn allweddol yn y penderfyniad i ddarparu PrEP yng Nghymru
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn amlinellu canlyniadau’r peilot o gyrsiau Hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang i weithwyr iechyd proffesiynol GIG Cymru. Mae’r cynlluniau peilot yn adeiladu ar holiadur cwmpasu o 2015 lle y canfuwyd bod diddordeb amlwg mewn hyfforddiant o’r fath. Gweithiodd yr IHCC ar y cyd â WCIA i ddatblygu a threialu cyrsiau hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o’u hymgysylltiad rhyngwladol o dan y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol (Saesnyg yn unig).
Briff ar integreiddio cynllunio ac iechyd y cyhoedd ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau iechyd yng Nghymru.
Nod yr adroddiad hwn yw archwilio’r berthynas rhwng ACE a datblygu clefydau cronig a’r defnydd o ofal iechyd gan oedolion yng Nghymru.
Yn rhyngwladol, cydnabyddir yn gynyddol y niwed y gall defnydd unigolyn o alcohol ei achosi i’r rhai o’u hamgylch (y cyfeirir atynt fel niwed yn sgîl pobl eraill yn yfed alcohol). O ganlyniad, mae ymchwil i’r mater hwn wedi dechrau dod i’r amlwg gan dynnu sylw at natur, graddfa a chost niwed yn sgîl pobl eraill yn yfed alcohol ar draws poblogaethau amrywiol.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i gefnogi atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r iechyd a’r lles gorau posibl ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Dyma’r trydydd mewn cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar nifer yr achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ym mhoblogaeth oedolion Cymru a’u heffaith ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd.
Diben yr Ymweliad Astudio hwn oedd rhoi cyfle i rannu syniadau ac ymagweddau ymarferol tuag at gysylltu’r agenda datblygu cynaliadwy ac iechyd a lles y boblogaeth ar draws cyd-destunau strategol a gweithredol.
Y catalog ariannu hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o ddeunyddiau gwybodaeth i gysylltu cyfleoedd ariannu allweddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â blaenoriaethau iechyd a lles Cymru.
Dyma un mewn cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar nifer yr achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ym mhoblogaeth oedolion Cymru a’u heffaith ar iechyd a lles ar draws y cwrs bywyd.
Diweddariad ar gynnydd yr IHCC ar gyfer y cyfnod 2013-2015
Strategaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer y cyfnod 2015 i 2018
Mae’r IHCC yn deillio o ddogfen Llywodraeth Cymru ‘Iechyd yng Nghymru a Thu Hwnt i’w Ffiniau: Fframwaith ar gyfer cysylltu’n rhyngwladol ym maes iechyd’, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012
Dyma un mewn cyfres o adroddiadau byr sy’n archwilio’r achos dros fuddsoddi mewn gweithgareddau ataliaeth. Mae pob adroddiad yn cynnwys adolygiad o’r llenyddiaeth sydd, er nad yw’n hollgynhwysol, yn ceisio rhoi trosolwg i’r darllenydd a’u cyfeirio at fwy o wybodaeth i’r rhai sydd angen mwy o fanylion.